Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn benthyg ei harbenigedd i brosiect newydd Horizon Europe

9 Ionawr 2024

Merch ifanc yn gwisgo baner yr Undeb Ewropeaidd dros ei chefn
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain ar ffrwd waith 'Ei Gwneud yn Wyrdd' cynllun adfer NextGenerationEU

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn prosiect newydd gwerth €9.75 miliwn i gasglu allbynnau’r gwyddorau cymdeithasol allweddol i lywio cynllun adfer NextGenerationEU a pholisi ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd.

Wedi'i ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd, bydd prosiect Infra4NextGen yn ail-bwrpasu ac yn addasu gwasanaethau ymchwil presennol i gefnogi pum thema rhaglenNextGenerationEU.

Nod NextGenerationEU yw i Ewrop 'adeiladu dyfodol gwyrddach, mwy digidol a mwy gwydn' gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol: Ei Gwneud yn Wyrdd; Ei Gwneud yn Ddigidol; Ei Gwneud yn Iach; Ei Gwneud yn Gryf; A'i Gwneud yn Gyfartal.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain ar y ffrwd waith 'Ei Gwneud yn Wyrdd' drwy greu rhestr o ddata sy’n bodoli eisoes wedi’u cofnodi mewn arolygon a gaiff eu cynnal mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Eurobarometer, Arolwg Ansawdd Bywyd Ewrop, yr Arolwg Cymdeithasol Ewropeaidd, GGP, yr EVS, a'r Rhaglen Arolwg Cymdeithasol Rhyngwladol, yn ogystal â chasglu data newydd.

Bydd y tîm yn dadansoddi ac yn crynhoi'r data sy’n bodoli eisoes o'r arolygon hyn i greu cyfres o adnoddau sy'n berthnasol i bolisi gyda sylwebaeth yn cael ei chyflwyno mewn porth ar-lein pwrpasol.

Dywedodd yr Athro Wouter Poortinga, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, sy’n arweinydd ar y prosiect: “Rwy'n falch o gyfrannu arbenigedd at gonglfaen pwysig y prosiect 'Ei Gwneud yn Wyrdd'

Mae newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd yn fygythiadau mawr i les cenedlaethau iau. Bydd y prosiect hwn yn helpu i lywio gwell polisïau amgylcheddol er budd pobl ifanc Ewrop a phobl ifanc o rannau eraill o'r byd hefyd.

Yr Athro Wouter Poortinga Professor

Bydd dadansoddiad cychwynnol y tîm yn cael ei ategu â data newydd a gesglir yn ddiweddarach yn y prosiect trwy blatfform ar-lein sy'n hygyrch ar draws 11 gwlad Ewropeaidd.

Croesawodd yr Athro Rory Fitzgerald, Cyfarwyddwr Consortiwm Seilwaith Ymchwil Ewropeaidd yr Arolwg Cymdeithasol Ewropeaidd a Chydlynydd Infra4NextGen, y dyfarniad: “Mae gan seilweithiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn Ewrop gyfoeth o ddata sy'n berthnasol i flaenoriaethau NextGenerationEU a pholisi ieuenctid yr UE.

“Mae'r data hwnnw'n wasgaredig ar hyn o bryd ac weithiau yn anodd i'w cyrchu. Mae'r prosiect newydd cyffrous hwn yn dod â mentrau gwyddorau cymdeithasol blaenllaw Ewrop ynghyd i greu allbynnau sy'n berthnasol i bolisi cytûn a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi ac academyddion fel ei gilydd.

“Trwy ddarparu crynodebau data mwy hygyrch, effeithiol a theilwra ac ategu hyn â data newydd o'r panel gwe a fforymau trafod, bydd Infra4NextGen yn helpu i gefnogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwell trafodaeth ar sail gwybodaeth.”