Ewch i’r prif gynnwys

Arweinwyr Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu

30 Ebrill 2021

Portraits of four academics
Ch-Dd: Dr Yingli Wang, Dr Daniel Eyers, Dr Jane Lynch and Dr Bahman Rostami-Tabar

Dechreuodd cynhadledd fewnol flynyddol Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (LOM) Ysgol Busnes Caerdydd gyda chyfres o wobrau am arweinyddiaeth mewn ymchwil, arloesi ac ymgysylltu.

Mae'r digwyddiad blynyddol, a gynhaliwyd yn rhithwir eleni, yn dod ag arbenigwyr ymchwil ac ymarfer ynghyd o adran LOM yr Ysgol i rannu a thrafod cynnydd ymchwil ymhlith cydweithwyr LOM.

Cafwyd tri chyd-enillydd i Wobr Ymchwil Arweinwyr LOM eleni:

  • Dr Yingli Wang, Darllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau
  • Dr Daniel Eyers, Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Systemau Gweithgynhyrchu
  • Dr Jane Lynch, Darllenydd mewn Caffael

Cydnabuwyd Dr Wang am ei rôl yn arwain ac yn cynnull consortia i ymgeisio am nifer o gontractau ymchwil gan arwain at gyfres o ddyfarniadau contract lle bydd hi'n Brif Ymchwilydd yn cynnwys gyda Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Innovate UK ac Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

Dros y 18 mis diwethaf roedd y rhain yn cyfateb i gyllid allanol llwyddiannus o dros £4m (cyfanswm gwerth y prosiect) gyda'i chyfran hi'n cyfateb i dros £1m.

Yn ogystal, mae Dr Wang wedi cyd-awduro amrywiaeth o bapurau ymchwil ansawdd uchel a goruchwylio ail olygiad ei chyfrol ar e-Logisteg a chyfrol newydd o'r enw “Digital supply chain transformation: leveraging emerging technologies for sustainable growth” gyda'i chydweithiwr yn LOM yr Athro Stephen Pettit.

Derbyniodd Dr Eyers y wobr am ei gyfraniad fel cyd-ymchwilydd neu Brif Ymchwilydd mewn dyfarniadau'n cyfateb i £930,000 dros y 18 mis diwethaf. Yn benodol, cynhelir prosiect Re-maker Space, y mae'n gyd-ymchwilydd arno, ar y llawr daear ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal, mae wedi cydawduro nifer o bapurau ymchwil ansawdd uchel sydd wedi'u cyhoeddi, rheoli nifer o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth ac wedi arwain dros 1000 o fyfyrwyr ar raglen traethawd hir a phrosiectau byw LOM dros y saith mlynedd ddiwethaf.

Er ei bod ar lwybr gyrfa Addysgu ac Ysgolheictod, cydnabuwyd Dr Lynch am ei rôl arweiniol yn cynnull a chymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau ymchwil yn gysylltiedig â'i maes diddordeb - caffael.

Dros y flwyddyn ddiwethaf arweiniodd y cais a'r cynllun ar gyfer prosiect Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus y Dyfodol (£2.4m) gyda gwaith ar y prosiect yn dechrau ym mis Mai 2021. Mae Dr Lynch hefyd yn arwain ar brosiect ymchwil cydweithredol ar ymgorffori gwerth cymdeithasol mewn caffael ar gyfer Canolfan Ganser Newydd Felindre. Mae hi'n sefydlu grŵp ymchwil newydd i adran LOM - Fforwm Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy a Chyfrifol (SRSCF) ac mae hefyd wedi profi llwyddiant wrth gyhoeddi mewn cyfnodolion.

Dr Bahman Rostami-Tabar ddaeth â'r seremoni wobrwyo i ben drwy ennill Gwobr Arloesedd ac Ymgysylltu Arweinwyr LOM.

Cydnabuwyd Dr Rostami-Tabar am ei gysyniad arloesol Rhagweld er Daioni Cymdeithasol (FSG) ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o fuddiolwyr drwy amrywiol fformatau, yn cynnwys:

Mae hefyd wedi cael llwyddiant yn cyhoeddi amrywiaeth o bapurau ymchwil ansawdd uchel dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi sicrhau cyllid o dros £50,000 yn benodol ar Rwystrau a Galluogwyr mewn Gofal Iechyd a Rhagweld Epidemig yn Affrica.

Yn olaf, fe'i gwahoddwyd i fod yn gynghorydd gwyddonol i Asiantaeth Datblygu Rhyngwladol yr Unol Daleithiau ar ddefnyddio modelau rhagweld ar gyfer cadwyni cyflenwi iechyd byd-eang mwy effeithiol.

“Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod gweithgareddau ymchwil, arloesi ac ymgysylltu rhagorol dros y deuddeng mis diwethaf, gan ddangos beth y gellir ei gyflawni yn ystod argyfwng COVID, sydd wedi bod yn gyfnod heriol a digynsail i bawb.”

Yr Athro Robert Mason Professor in Logistics

“Mae'r enillwyr wedi cyfrannu'n sylweddol i'r gwaith ymchwil, arloesi ac ymgysylltu gwych ar draws adran LOM. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i bawb!”

Dr Irina Harris Senior Lecturer in Logistics and Operations Modelling

Rhagor o wybodaeth am Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.