Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr o Gaerdydd yn ymuno â phrosiect 5G £3m Gorllewin Lloegr

16 Chwefror 2021

Port with graphics layed over

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd mewn logisteg, rheoli gweithrediadau a thrafnidiaeth yn asesu buddion busnes a goblygiadau polisi technoleg 5G fel rhan o brosiect £3m a gyllidir gan Lywodraeth y DU gydag Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr (WECA).

Bydd rhaglen prosiect Logisteg 5G WECA yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau 5G i gefnogi gweithrediadau ym Mhorthladd Bryste a Champws Smart Gravity ac yn dangos amgylchedd porthladd craff a deinamig.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddiogelwch, y gallu i olrhain, a thracio nwyddau mewn amser real o fewn ac ar draws ffiniau rhithwir y gellir eu hymestyn - a rhwng rhwydweithiau cyhoeddus a phreifat.

Bydd un o ddau bartner academaidd yn y consortiwm, Dr Yingli Wang, yr Athro Andrew Potter a'r Athro Mohamed Naim o Ysgol Busnes Caerdydd yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd o Labordy Rhyngrwyd Craff Prifysgol Bryste.

“Tra bod ein cydweithwyr o Gyfadran Peirianneg Bryste yn darparu’r arbenigedd technegol ar 5G , ein rôl ni yw archwilio goblygiadau polisi a busnes y dechnoleg ar gyfer logisteg ac yn enwedig cysyniad ‘Porth Rhydd' wedi’i alluogi gan 5G.”

Yr Athro Yingli Wang Professor in Logistics and Operations Management, Deputy Head of Section - Research, Impact and Innovation

“Rydym ni'n falch iawn i fod yn rhan o'r prosiect ac yn edrych ymlaen at weithio gyda WECA a'i bartneriaid ar wireddu buddion, cynaladwyedd a lledaenu gwybodaeth dros y 18 mis nesaf.”

Bydd y tîm yn dangos sut gall galluoedd rhwydwaith preifat 5G gynnig gwelliannau o ran effeithlonrwydd a chynhyrchedd i'r sector logisteg ac yn ehangach, gan ganiatáu olrhain lleoliad eitemau unigol mewn amser real, gwelliannau i reolaeth traffig ffyrdd a gosod systemau ymreolaethol gyda 5G yn lle prosesau gwerth isel, llafur-ddwys.

Mae'r prosiect yn cynnig potensial ar gyfer cyflwyno datblygiadau technoleg o'r fath ar draws diwydiant, gan gynnwys mewn porthladdoedd eraill yn y DU, Parthau Menter neu barciau busnes eraill.

Dywedodd Tim Bowles, Maer Gorllewin Lloegr: “Mae gan 5G y potensial i chwyldroi diwydiannau ac economïau cyfan, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd cyffrous. Rwyf am i Orllewin Lloegr fod ar flaen y gad yn y chwyldro hwn.

“Rydyn ni eisoes wedi arwain un treial llwyddiannus ac rwyf i wrth fy modd bod ein cynllun i ddangos sut y gallai porthladd craff a diogel weithredu gan ddefnyddio Rhyngrwyd Pethau wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth i'w ariannu...”

“Mae cefnogi arloesedd a swyddi’r dyfodol a dod â buddsoddiad newydd i’r rhanbarth drwy sicrhau Porthladd Rhydd yn elfennau allweddol o’n cynllun ar gyfer adferiad economaidd, felly mae hon yn bleidlais fawr o hyder yng Ngorllewin Lloegr.”

Tim Bowles Maer Gorllewin Lloegr

Mae'r prosiect £3m a gefnogir gan y Llywodraeth yn rhan o'u cystadleuaeth Creu 5G - sy'n cefnogi arloeswyr sy'n edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio 5G i helpu i wella bywydau pobl a rhoi hwb i fusnesau.

Mae technoleg yn parhau i chwarae rhan ganolog yn strategaeth ehangach Llywodraeth y DU ar gyfer y ffin. Ei nod yw sefydlu 'porthladdoedd y dyfodol' gwydn mewn mannau sy'n croesi ffiniau i wneud y profiad yn fwy llyfn a diogel i deithwyr a masnachwyr, gan ddiogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd yn well.

“Bydd y prosiect arloesol hwn, a gyllidir drwy ein rhaglen treialon 5G £200 miliwn, yn edrych ar sut y gallai cysylltedd 5G chwyldroadol newydd wneud ein porthladdoedd yn fwy effeithlon a diogel wrth i ni ddenu buddsoddiadau mawr o bedwar ban byd ar ôl Brexit.”

Matt Warman Y Gweinidog Seilwaith Digidol

“Rwy'n edrych ymlaen at ei weld ar waith.”

Mae WECA yn arwain consortiwm o bartneriaid ar y prosiect Logisteg 5G £5.2m - un o naw prosiect i dderbyn cyllid gan y llywodraeth - sy'n cynnwys cwmnïau ADVA Ltd, Airspan, AttoCore, Porthladd Bryste, Cellnex UK, Gravity, Maritime, Unmanned Life, Cyngor Dinas Bryste, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Caerdydd. 5G yw'r math o arloesi technegol blaengar y mae Gorllewin Lloegr yn gobeithio ei chofleidio gyda'r cynnig arfaethedig am Borthladd Rhydd.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.