Ewch i’r prif gynnwys

iLEGO 2020

16 Hydref 2020

Group of people in Zoom meeting

Mae ymarferwyr o’r byd diwydiannol a’r byd academaidd wedi rhannu gwybodaeth ac arbenigedd am werth modelau busnes cylchol yng ngweithdy Arloesedd mewn Mentrau Di-wastraff a Gweithrediadau Gwyrdd (iLEGO) Ysgol Busnes Caerdydd ar 9 Medi 2020.

Gyda 260 o gofrestriadau, y gweithdy eleni - y pedwerydd o’i fath - oedd yr un mwyaf poblogaidd hyd yma ac fe’i cynhaliwyd am y tro cyntaf yn rhithwir ar Zoom.

Cafodd cyfranogwyr o’r byd academaidd, byd diwydiant a’r llywodraeth eu croesawu gan yr Athro Calvin Jones, Dirprwy Ddeon yn Ysgol Busnes Caerdydd, a bwysleisiodd bwysigrwydd y digwyddiad i’r Ysgol nid yn unig o ran ymchwil ond oherwydd ei gysylltiadau â chenhadaeth unigryw sydd â Gwerth Cyhoeddus.

Digwyddiad Alarch Du

PowerPoint slide from conference presentation

Unwaith bod y digwyddiad wedi dechrau’n ffurfiol, rhoddodd Joseph Sarkis, Athro Gweithrediadau a Rheoli Amgylcheddol yn Sefydliad Polytechnig Worcester, Massachusetts, brif anerchiad iLEGO.

Gan ystyried goblygiadau’r pandemig byd-eang parhaus, rhoddodd yr Athro Sarkis brif gyflwyniad am a all egwyddorion economi gylchol helpu i ymateb i ddigwyddiad alarch du sy’n peri aflonyddwch cymdeithasol ac economaidd, a helpu i adfer ar ei ôl.

Esboniodd yr Athro Sarkis fod natur fyd-eang argyfwng COVID-19, wrth iddo symud o wahanol ardaloedd, yn dadorchuddio gwendidau’r gadwyn gyflenwi, a sut gellid gwella’i gwydnwch trwy ei gwneud yn fwy lleol ac yn ystwyth a thrwy ddigideiddio a thechnoleg.

Fodd bynnag, roedd yn gyflym i ychwanegu pwysigrwydd ystyried y goblygiadau anfwriadol posibl y gellid eu hachosi o ganlyniad a rhoddodd enghreifftiau o effaith bosibl symud ymlaen o globaleiddio i leoleiddio.

Gorffennodd trwy ein hatgoffa i fod yn fwy trugarog. “Gadewch i ni beidio â ffugio anwybodaeth petai hyn yn digwydd eto; yn hytrach, mae angen i ni ddysgu o’r profiad hwn.”

Nesaf symudwyd trafodaethau ymlaen gan Dr Adam Read, Cyfarwyddwr Materion Allanol yn SUEZ Recycling and Recovery, i sôn am rôl cwmni rheoli gwastraff yn yr economi gylchol.

Mynnodd ar yr angen i ailystyried ein perthynas â phrynu ‘pethau’, gan nad ailgylchu yn unig yw’r ateb. “Nid rheoli gwastraff fydd yr ateb yn y dyfodol; yr economi gylchol fydd hynny,” haerodd Dr Read.

Gan barhau â’r ffocws hwn ar arfer, arweiniodd Ann Beavis, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy yn Crown Workspace, y sesiwn gychwynnol i’r egwyl goffi rithwir trwy amlinellu sut gellir cyflwyno egwyddorion yr economi gylchol i’r gweithle.

Rhannodd hi enghreifftiau o’i gweithle hi, a sut mae eu model busnes yn helpu i newid y canfyddiad o wastraff yn y pen draw.

Yn sesiwn y prynhawn, rhannodd Mark Thompson, Rheolwr Gyfarwyddwr Techlan Ltd, wersi a ddysgwyd wrth reoli busnes ailgylchu economi gylchol.

Daeth Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd yn Celsa Steel UK, â’r cyflwyniadau ffurfiol i ben gyda’i drafodaeth am y prosesau sydd ynghlwm wrth roi cadwyni cyflenwi economi gylchol ar waith, o ddefnyddio i adfywio.

Fe siaradodd am atebion dylunio strategol ar gyfer datblygiad economaidd adferol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o gylchoedd bywyd llawn.

Dadlau a thrafod

  • Meddai Maneesh Kumar, Athro mewn Gweithrediadau a Gwasanaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd iLEGO: “Gellir priodoli rhan helaeth o lwyddiant iLEGO i’r gwaith ymchwil gymhwysol a gynhaliwyd gan ein His-adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yma yn Ysgol Busnes Caerdydd…”

“Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r gweithdy’n parhau i ddangos pwysigrwydd dod â chymunedau academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisïau ynghyd ar un llwyfan i gymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau ynglŷn â phynciau megis yr economi gylchol sy’n cydweddu â diben Gwerth Cyhoeddus ein Hysgol.”

Yr Athro Maneesh Kumar Reader in Service Operations, Program Director Executive MBA

Hefyd am y tro cyntaf, roedd y gweithdy’n rhan o eLRN 2020, cynhadledd rithwir tri diwrnod a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y DU.

Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Uwch-ddarlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd a Chyd-gadeirydd iLEGO: “Roedd y penderfyniad i integreiddio iLEGO ag eLRN am y tro cyntaf yn un pwysig. Trwy wneud hynny, daethpwyd â synergeddau ychwanegol i drafodaeth a oedd eisoes yn fywiog am gadwyni cyflenwi economi gylchol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU...”

“Hon oedd ein pedwaredd flwyddyn yn cynnal gweithdy iLEGO ac, yn fy marn i, dyma oedd yr un gorau heb os nac oni bai. Roedd yn gyfoes yn ei berthnasedd i bandemig COVID-19 ac wrth gwrs, fel bob amser, roedd yn elwa ar safon y siaradwyr a’r cyflwyniadau.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth banel a oedd yn cynnwys holl siaradwyr y digwyddiad. Ynghyd â’u cyflwyniadau, roedd hyn yn cynnwys aelodau’r panel yn rhannu eu barn ar y canlynol:

  • Sut gall modelau economi gylchol alluogi cadwyni cyflenwi i fod yn wyrddach ac yn fwy gwydn yn ystod cyfnod adfer economaidd ar ôl Covid-19?
  • Beth yw eich barn chi ar rôl ‘arloesedd trwy bartneriaethau’ ar gyfer rhoi modelau busnes cylchol ar waith?’

Gan ganolbwyntio ar y pandemig byd-eang parhaus, gwnaeth siaradwyr sylwadau hefyd ar yr isod:

  • Sut mae cwmnïau â modelau busnes cylchol arweiniol wedi llwyddo i ymateb i argyfwng COVID-19?
  • Pa mor hanfodol yw rhoi modelau busnes cylchol ar waith yn effeithiol pan fydd busnesau’n dychwelyd i’r ‘normal newydd’ ar ôl COVID-19?

Meddai Dr Adam Read, Cyfarwyddwr Materion Allanol, SUEZ Recycling and Recovery: “Roeddwn yn mwynhau’n fawr y cymysgedd amrywiol o gyfranogwyr a phanelwyr yn y digwyddiad hwn, a arweiniodd at drafodaeth a dadlau ysgogol...”

“Byddem yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn ystyr yr economi gylchol neu’r hyn y gallai ei wneud ar eich cyfer chi i ymuno â digwyddiadau yn y dyfodol i fwynhau’r profiad o gymheiriaid yn dysgu gan ei gilydd a rhannu syniadau.”

Dr Adam Read Cyfarwyddwr Materion Allanol, SUEZ Recycling and Recovery

Trefnwyd iLEGO 2020 gan yr Athro Maneesh Kumar, Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Nadine Leder a’r Tîm Addysg Gweithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.