Ewch i’r prif gynnwys

Dechrau plannu ar gyfer prosiect adfer coedwig law

30 Mehefin 2020

Orangutan

Mae rhaglen beilot Prifysgol Caerdydd, Aildyfu Borneo, am ddechrau plannu 12,500 o goed ar ôl cyrraedd ei darged o ran rhoddion yn gynt na'r disgwyl.

Mae Aildyfu Borneo’n rhoi’r cyfle i staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd wrthbwyso’r carbon sy’n deillio o hedfan angenrheidiol.

Ar ôl iddo gael ei greu gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy’r Brifysgol a Chanolfan Maes Danau Girang, yng nghoedwig law Kinabatangan ym Malaysia, lansiwyd y prosiect fel cynllun peilot ym mis Hydref 2019 ac mae wedi codi tua £20,000 ers hynny.

Defnyddir y rhoddion i ariannu'r gwaith o blannu 12,500 o goed yng Ngorlifdir Isaf Kinabatangan yn Borneo, ar draws tri safle ar wahân ac yn cwmpasu pum hectar.

Gan ddechrau ym mis Gorffennaf - ar ôl i fesurau cyfnod clo Covid-19lacio ym Malaysia ac ar ddiwedd y tymor glawog – bydd KOPEL, sefydliad partner Maleisiaidd Aildyfu Borneo, yn ymgymryd â'r gwaith o blannu.

Ynghyd â hyn, bydd academyddion o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i faint o garbon sy’n cael ei ddal gan y prosiect, gan asesu ei effeithlonrwydd a’i effaith ar goedwig law Kinabatangan. Bydd eu gwaith yn llywio Aildyfu Borneo wrth iddo ddatblygu.

Yn ôl Dr Benoit Goossens, o Ganolfan Maes Danau Girang: "Mewn tri degawd yn unig, mae traean o goedwig glaw Borneo wedi diflannu. Bydd y rhoddion rydym wedi'u cael yn helpu i aildyfu'r goedwig, gan helpu i achub orangwtaniaid a rhywogaethau eraill y mae eu cynefinoedd naturiol wedi cael eu diddymu gan newid yn yr hinsawdd, torri coed yn anghyfreithlon ac olew palmwydd."

Ychwanegodd y Fonesig Judi Dench, Llysgennad dros Aildyfu Borneo: “Ar ôl ymweld â Borneo y llynedd, rwy’n falch o fod yn rhan o raglen Aildyfu Borneo. Mae’n waith bendigedig ac angenrheidiol, a hoffwn i bwysleisio eto pa mor falch ydw i i fod yn rhan ohono.”

I gael rhagor o wybodaeth am Aildyfu Borneo neu i roi rhodd ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/regrowborneo

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages