Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr i greu “ffatrïoedd sgwrsio” y dyfodol

27 Tachwedd 2017

chatty factories

Bydd prosiect newydd £1.5m yn creu system lle gall cynhyrchion “sgwrsio” â gweithwyr ar lawr y ffatri er mwyn trawsnewid y broses weithgynhyrchu fodern

Dychmygwch helmed beic a allai anfon neges destun at eich ffôn i ddweud wrthych fod hollt wedi datblygu o dan wyneb yr helmed.

Ar yr un pryd, dychmygwch fod y wybodaeth hon yn cael ei hanfon yn syth yn ôl at gynhyrchwyr yr helmed beic fel y gallent newid eu prosesau yn syth bin a gwella’r llwyth nesaf o helmedau beic ar y llinell gynhyrchu.

Gweledigaeth prosiect newydd sbon £1.5m a arweinir gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yw’r syniad bod pobl, cynhyrchion a phrosesau cynhyrchu yn gynhenid gysylltiedig.

Nod y prosiect tair blynedd yw manteisio ar dwf aruthrol “Rhyngrwyd y Pethau”, lle mae gan eitemau cyffredin y gallu i “siarad” â’i gilydd a throsglwyddo symiau enfawr o wybodaeth ddefnyddiol.

Trwy ymgorffori synwyryddion yn y cynhyrchion rydym yn eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd, y nod yw creu un broses ddiwnïad sy’n gallu newid ein cynhyrchion yn barhaus yn seiliedig ar ddata gan ddefnyddwyr.

Gallai’r prosiect, a lasenwyd yn “Ffatrïoedd Llafar”, arbed o bosib symiau sylweddol o amser ac arian a dreulir ar ymchwil ddefnyddwyr, dylunio cysyniadol, cynddelwi, a llafur â llaw ar lawr y ffatri, yn ogystal â chynnig syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd sbon.

“Mae’r broses weithgynhyrchu bresennol wedi’i chyfyngu gan yr anallu i fireinio dyluniad cynhyrchion yn gyflym ac yn barhaus yn seiliedig ar brofiad y cwsmer, ar yr un pryd ag ail-addysgu’r prosesau dynol a robotig ar lawr y ffatri."

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

“Os yw gweithgynhyrchwyr yn creu beiciau o ansawdd uchel sy’n werth miloedd o bunnoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio fel y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio, sut ydym yn diweddaru’r problemau cynhyrchu ac ail-drefnu llawr y ffatri rhwng sifftiau, gan ddweud wrth weithwyr dynol a robot sut i newid eu dyletswyddau o fewn munudau?

"Bydd ein dull newydd yn galluogi gweithgynhyrchwyr i synhwyro profiad y cynnyrch, gan greu rhywbeth sy’n seiliedig ar ei ddefnydd go iawn yn hytrach na’r defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer.”

Mae’r syniad o ddefnyddio data cyfamserol o synwyryddion wedi ei gyflwyno yn helaeth yn y diwydiant awyrennau, yn benodol ar gyfer monitro perfformiad peiriannau jet; fodd bynnag, defnyddir y data er mwyn mireinio optimeiddio cynnyrch sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu rhai newydd.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn datblygu deallusrwydd artiffisial i brosesu’r symiau mawr o ddata, gan archwilio’r ffyrdd y gellir ymgorffori synwyryddion mewn cynhyrchion, datblygu robotiaid i ail-sgilio llawr y ffatrïoedd a sicrhau bod yr holl gynhyrchion a phrosesau rhyng-gysylltiedig yn gallu deall eu gilydd.

Bydd pob Rhan o’r ymchwil yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf ym maes seiberddiogelwch, gan sicrhau y crëir prosesau diogel a chadarn.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol y DU, ac mae hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caeredin, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Caerhirfryn, a Phrifysgol Bath Spa.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.