Goblygiadau tynnu'n ôl
Diweddarwyd diwethaf: 19/07/2022 11:08
Mae pob myfyriwr yn cael cyfnod o bythefnos ar ddechrau eu cwrs pa na chaiff ffioedd dysgu eu codi.
Myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr
Ar ôl y cyfnod o bythefnos, dyma faint fydd yn cael ei godi arnoch chi:
- Tymor 1 (rhwng 19 Hydref 2022 a 20 Ionawr 2023) - 25%
- Tymor 2 (rhwng 23 Ionawr 2023 a 16 Ebrill 2023) - 50%
- Tymor 3 (rhwng 17 Ebrill 2023 a 16 Mehefin 2023) - 100%
Myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan Gyllid Myfyrwyr
Ar ôl y cyfnod o bythefnos, codir tâl arnoch, ar ôl tynnu unrhyw flaendal na ellir ei ad-dalu ar sail pro-rata, yn ôl nifer yr wythnosau o bresenoldeb ers dechrau’r cwrs:
- 32 wythnos ar gyfer myfyrwyr israddedig, neu
- 52 wythnos ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Gwneir ad-daliad priodol os bydd angen.
Ceir adegau lle bydd gan gyrsiau penodol reolau gwahanol ar ad-dalu ffioedd. Yn yr eithriadau hyn, a phan mae'r rheoliadau ynghylch ad-dalu ffioedd dysgu yn wahanol i'r rhai a amlinellwyd uchod, cewch eich hysbysu'n glir am y rhain cyn dechrau'r cwrs.
Cysylltu â ni
Fe'ch cynghorwn i siarad ag aelod o staff yn y Swyddfa Gyllid i drafod y goblygiadau o dynnu'n ôl ar eich ffioedd dysgu. Gallwch drafod agweddau eraill sy'n gysylltiedig â thynnu'n ôl, megis y goblygiadau ariannol ar eich cyllid, gydag aelod o'r Tîm Cyngor ac Arian.