Ewch i’r prif gynnwys

Canllaw modiwlau i fyfyrwyr ar raglenni cyfnewid

Diweddarwyd: 03/10/2023 09:49

Gall myfyrwyr rhaglenni cyfnewid astudio modiwlau dewisol os yw eich ysgol gartref yn caniatáu astudio modiwlau o ysgol arall.

Mae'r holl raglenni astudio, yn cynnwys modiwlau annibynnol, yn amodol ac yn dibynnu ar gymeradwyaeth eich Pennaeth Ysgol neu eu henwebai.

Myfyrwyr Cyfnewid Ewropeaidd

Fel myfyriwr cyfnewid Ewropeaidd/Erasmus bydd gennych ysgol 'gartref'. Dyma'r ysgol academaidd a gychwynodd y broses cyfnewid i chi. Efallai fydd yr ysgol hon yn eich caniatáu i astudio modiwlau ysgolion eraill a dylech gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol i drefnu i ddewis.

Sut i ddewis eich modiwlau

Mae'n rhaid cytuno ar yr holl ddewisiadau modiwlau gyda'ch ysgol gartref fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi ynglŷn â'r modiwlau sy'n addas:

  • pori'r catalog modiwlau ar gyfer myfyrwyr ar raglenni cyfnewid i ddewis y modiwlau yr hoffech eu hastudio
  • mynychu eich digwyddiad ysgol gartref i drafod eich dewis o fodiwlau
  • cytuno ar ddewis modiwlau gyda'ch ysgol gartref
  • gofyn am wybodaeth modiwlau wrth yr ysgol arall
  • dewis yr holl fodiwlau ar gyfer y sesiwn academaidd drwy'r dasg dewis modiwlau ar SIMS ar-lein.

Myfyrwyr Cyfnewid Rhyngwladol ac Astudio Dramor

A chithau'n fyfyriwr Cyfnewid Rhyngwladol ac Astudio Dramor, bydd y tîm Astudio Dramor yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i drafod eich ysgol garetref a gwybodaeth am ddewis modiwlau.

Sut i ddewis eich modiwlau

  • bydd rhestr o fodiwlau wedi'u cymeradwyo ynghynt yn cael ei hanfon atoch drwy ebost gan y tîm Astudio Dramor. Am fanylion modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, gweler Astudio dramor yng Nghaerdydd
  • cyflwynwch eich dewisiadau modiwl ynghyd â'ch ffurflen gais
  • yn dilyn cadarnhad o'ch modiwlau gan y tîm Cyfleoedd Byd-eang, dewiswch yr holl fodiwlau ar gyfer y sesiwn academaidd trwy'r dasg dewis modiwlau ar-lein yn SIMS ar-lein
  • os bydd gwrthdaro yn yr amserlen, ewch i ddigwyddiad cofrestru i drafod eich dewis o fodiwlau
  • gofyn am gymeradwyaeth i fodiwlau gan yr ysgol academaidd berthnasol.

Dewis eich modiwlau

Rhaid i unrhyw fodiwlau a ddewiswch ffitio i mewn i'ch amserlen addysgu gyffredinol. Dim ond wrth gofrestru y byddwch yn gallu sefydlu hyn. Felly, mae'n ddoeth dewis nifer o fodiwlau wrth gefn rhag ofn na fyddwch yn gallu cofrestru eich dewis cyntaf.

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch i gwblhau'r dasg hon, dylech gysylltu gyda'ch ysgol gartref neu'r tîm Astudio Dramor.

Newid eich dewis modiwlau

Ar ôl cofrestru i astudio modiwl, efallai y bydd hi'n bosibl i chi newid eich meddwl ond dim ond o fewn y pythefnos gyntaf o dymor yr hydref (ar gyfer modiwlau sy'n dechrau bryd hynny). Yn yr un modd, o fewn y pythefnos gyntaf yn ystod tymor y gwanwyn (ar gyfer y modiwlau sy'n dechrau bryd hynny). Bydd eich ysgol gartref neu'r tîm Astudio Dramor yn gallu'ch cynghori chi ynglŷn â'r broses i'w dilyn os hoffech chi newid eich dewis modiwlau.

Newid neu dynnu modiwlau'n ôl

Mae'r modiwlau a hysbysebwyd neu a gyfeiriwyd atynt yng nghatalog modiwlau'r Gyfnewidfa Ewropeaidd neu gatalog Cyfnewid Rhyngwladol/Astudio Dramoryn catalog modiwlau yn gallu newid neu'n gallu cael eu tynnu'n ôl cyn neu ar ôl detholiad.

Nid yw Prifysgol Caerdydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau neu gyfyngiadau o'r fath ar fodiwlau neu dynnu modiwlau'n ôl.

Gall resymau sy'n achosi newid neu dynnu modiwlau'n ôl gynnwys diffyg aelodau allweddol o staff neu nifer annigonol o myfyrwyr yn dymuno astudio'r modiwlau.