Israddedig
Wrth astudio Cerddoriaeth gyda ni, cewch chi'r cyfle i ymgysylltu â chymuned gerddorol fywiog.
Mae ein cwricwlwm israddedig yn gadarn o ran sgiliau traddodiadol, ond hefyd yn adlewyrchu'r datblygiadau cyfoes yng ngherddoriaeth a cherddoleg.
Mae ein myfyrwyr yn gweithio a'n astudio gyda staff academaidd sy'n arbenigwyr ym meysydd cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg, a cherddoriaeth boblogaidd.
Rydym wrthi’n annog ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cerddorol a beirniadol sy’n addas i amrywiaeth eang o yrfaoedd a gweithleoedd. Roedd 97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Mae ein graddedigion yn llwyddiannus o fewn y proffesiwn cerddorol - fel cyfansoddwyr, arweinwyr, perfformwyr, athrawon, gweinyddwyr y celfyddydau, a llyfrgellwyr cerddorol - ond hefyd mewn meysydd amrywiol fel y gyfraith, cyfrifeg, gwleidyddiaeth, TG, marchnata ac ymgynghoriaeth rheoli.
Rhaglenni gradd
Mae ein cwrs BMus yn cynnig astudiaeth fanwl o gerddoriaeth sy'n eich galluogi chi i arbenigo ac i ddatblygu eich diddordebau cerddorol eich hun:
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cerddoriaeth (BMus) | W302 |
Cerddoriaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BMus) | G85D |
Mae ein rhaglenni BA yn eich galluogi chi i uno eich astudiaethau cerddoriaeth gyda Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Eidaleg, Mathemateg, neu Gymraeg:
Clyweliadau a chyfweliadau
Bydd rhan fwyaf o'n ymgeiswyr israddedig yn derbyn gwahoddiad i ymweld â'r Ysgol Cerddoriaeth. Yn ystod eich ymweliad byddwch yn gallu mynd ar daith tywys o'r adeilad a chael clyweliad a chyfweliad 15 munud.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein tudalennau cwrs.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.
Explore our courses in detail in course finder and find out how to apply.