Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i astudio eu modiwlau israddedig yn rhannol neu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gallai addysgu cyfrwng Cymraeg fod ar gael ar y modiwlau canlynol, os oes staff ar gael:

Blwyddyn 1

MU1125 Elfennau o gerddoriaeth tonyddol I

MU1227 Elfennau o gerddoriaeth tonyddol II

MU1314 Cerddoriaeth Ymarferol I

Blwyddyn 2

MU2335 Cerddoriaeth Ymarferol II

Blwyddyn 3

MU3137 Cerddoriaeth Ymarferol III (Ensemble)

MU3344 Cerddoriaeth Ymarferol IV (Perfformiad)

MU3342 Datganiad

MU3340 Traethawd

Lle bo modd, gall myfyrwyr gael tiwtor ymarferol a/neu diwtor personol sy'n siarad Cymraeg, os oes staff ar gael. Caniateir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am addysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Cerddoriaeth cysylltwch â Dr Sarah Hill.