Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod ymgeiswyr

Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr israddedig rydym yn eu croesawu i’r Ysgol Cerddoriaeth yn cael eu gwahodd i ddiwrnod ymgeiswyr yn yr ysgol, a gynhelir fel arfer rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth.

Mae'r diwrnod ymgeiswyr yn gyfle i fyfyrwyr ddod i weld yr ysgol, cwrdd â’n staff academaidd, a gweld sut brofiad yw astudio gyda ni.

Bydd ymgeiswyr yn gallu gwrando ar gyflwyniadau a mynd i weithdai sy'n eu cyflwyno i'r ysgol a rhoi rhagflas o’r pethau y gallant eu hastudio yma.

Mae’r diwrnod hefyd yn gyfle i sgwrsio gyda rhai o fyfyrwyr presennol yr Ysgol Cerddoriaeth i’w holi am eu profiadau o fywyd yn yr ysgol, ac o Gaerdydd.

Yn rhan o'r diwrnod ymgeisio, bydd y darpar fyfyrwyr yn cael cyfarfod un-i-un 15 munud gydag aelod o staff academaidd. Dyma gyfle i ymgeiswyr ddod i'n hadnabod a sgwrsio am eu diddordebau cerddorol.

Yn ystod y cyfarfodydd hyn, gwahoddir ymgeiswyr i naill ai berfformio darn byr o gerddoriaeth ar eu prif offeryn neu lais, neu — i’r rhai sydd â mwy o ddiddordeb mewn cyfansoddi neu gerddoleg — dod â chyfansoddiad gyda nhw i’w drafod, neu awgrymu gwaith cerddorol neu bwnc i gael sgwrs anffurfiol amdano.

Nid clyweliadau na chyfweliadau ffurfiol yw’r cyfarfodydd hyn, ond maent yn gyfle i ymgeiswyr siarad yn fanylach am eu diddordebau cerddorol a dangos eu galluoedd.

Mae diwrnodau ymgeiswyr hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddod i adnabod yr ysgol, a chael taith o amgylch yr adeilad i weld y cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael i gefnogi eu hastudiaethau.

Cysylltu â ni

Yr Ysgol Cerddoriaeth