Ewch i’r prif gynnwys

Hanes a threftadaeth

Old photos
Rydym ni'n hyrwyddo ymchwil hanesyddol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Mae'r thema drawsddisgyblaethol hon yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd sy'n archwilio'r gorffennol a'i waddol yn feirniadol.

Rydym ni'n ymchwilio sut y caiff y gorffennol ei bortreadu ac yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau treftadaeth a diwylliannol i helpu i ffurfio'r ffordd y caiff ei ddarlunio yn y presennol. Yn sail i'r gwaith mae ein harbenigedd amlieithog ac amlddiwylliannol, sy'n atgyfnerthu ein hymagwedd drawswladol at hanes a threftadaeth.

Manteisiwyd ar ein harbenigedd mewnol ar y diwydiannau treftadaeth a diwylliannol i greu ein rhaglen MA Diwylliannau Byd-eang lle gall myfyrwyr astudio esblygiad diwydiannau diwylliannol mewn cyd-destun byd-eang.

Ein nod yw

  • Creu cyfleoedd ar gyfer dialog a chydweithio yn yr Ysgol, yn y gymuned academaidd ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.
  • Mynd ati i ymgysylltu â'r diwydiannau treftadaeth a diwylliannol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Hyrwyddo ymchwil hanesyddol yn yr Ysgol drwy ddarparu amgylchedd colegol lle gall ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfa rannu a datblygu gwaith sydd ar y gweill, ac adfyfyrio a thrafod datblygiadau disgyblaethol.
  • Eiriol dros bwysigrwydd hyfforddiant iaith ar gyfer ysgolheictod hanesyddol.

Ein gwaith

Nodir y thema hon gydag ysgolheictod hanes a threftadaeth yn seiliedig ar iaith mewn cyd-destun byd-eang. Mae ei haelodau'n gweithio ar draws amrywiol gyd-destunau cenedlaethol a thrawswladol yn Ewrop, Cyfandiroedd America, Affrica ac Asia.

Mae meysydd arbenigedd ein haelodau'n cynnwys cof rhyfel, caethwasiaeth, trychineb, chwyldro a chyfieithu ac yn aml byddant yn darparu sylwebaeth arbenigol yn y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff amrywiol fethodolegau a ffynonellau cyfryngol eu cwmpasu yn ein gwaith yn cynnwys ffotograffiaeth, ffilm, radio, yn ogystal â llenyddiaeth a nofelau graffig. Mae aelodau hefyd yn ymchwilio i brosesau paratoi ar gyfer amgueddfeydd a chadwraeth atgofion, a gwleidyddiaeth y cof.

Rydym ni'n ceisio adfyfyrio ar ein harferion cynhyrchu hanesyddol ein hunain ac ymarferwyr eraill, ac edrych ar sut ac i ba ddiben y caiff y gorffennol ei ddefnyddio yn y presennol. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiannau treftadaeth a diwylliannol i ffurfio dealltwriaeth gyfoes o'r gorffennol.

Effaith ein hymchwil

Rydym ni'n gartref i brosiectau a rhwydweithiau sy'n cynnwys ysgolheictod hanesyddol wrth ymdrin â materion cyfoes hollbwysig. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

Y Rhwydwaith Celfyddydau a Threftadaeth Gwrth-gaethwasiaeth Mae'r rhwydwaith hwn yn mynd i'r afael â gwaddol parhaus caethwasiaeth drefedigaethol a'i chysylltiadau â mathau modern o gamfanteisio ar lafur.

Diwylliannau Arddangos Ôl-Wrthdaro a Hyrwyddo Heddwch Mae ein hymchwilwyr yn chwarae rhan flaenllaw yn y rhwydwaith hwn sy'n gweithio ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Amgueddfa Rhyddhad Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio gyda'r Amgueddfa Rhyddhad ym Mharis. Mae'r amgueddfa Ail Ryfel Byd hon yn olrhain llwybrau bywyd unigol gwrthwynebwyr Ffrainc yn cynnwys Jean Moulin a'r Cadfridog Leclerc gan ddangos sut yr arweiniodd mudiad y gwrthsafiad at Ryddhau Paris.

Ymchwil PhD

Rydym ni'n cynnig amgylchedd cefnogol ac ysgogol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig. Rydym ni'n rhan o Raglen Hyfforddi Doethurol Cymru a De Orllewin Lloegr yr AHRC, ac yn cynnig cyfleoedd rheolaidd ar gyfer astudio doethurol lle caiff ymchwil ei chynnal ar y cyd â sefydliadau diwylliannol a threftadaeth.

Os yw eich ymchwil yn cyd-fynd â disgrifiad a nodau'r thema hon, a'ch bod yn yn dymuno cynnal eich astudiaethau MPhil neu PhD gyda ni, edrychwch ar broffiliau ein haelodau arbenigol o staff a chysylltwch â'n gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig.

Gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig

Ein goruchwylwyr PhD

Picture of Tilmann Altenberg

Dr Tilmann Altenberg

Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29208 74584
Email
AltenbergTG@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Tilmann Altenberg yn cynnig goruchwylio ym meysydd hanes diwylliannol a llenyddol yn cynnwys y byd Sbaeneg ei iaith, a threftadaeth rhyfel a chwyldro.

Picture of David Clarke

Yr Athro David Clarke

Head of School and Professor in Modern German Studies

Telephone
+44 29206 88868
Email
ClarkeD4@caerdydd.ac.uk

Mae'r Athro David Clarke yn cynnig goruchwylio mewn amrywiaeth eang o themâu’n ymwneud â gwleidyddiaeth a diwylliant cof a threftadaeth, yn cynnwys atgofion am ddioddefaint, atgofion am gomiwnyddiaeth, atgofion rhyfel a gwrthdaro a materion yn ymwneud ag astudiaethau amgueddfa.

Picture of Hanna Diamond

Yr Athro Hanna Diamond

Professor of French History

Telephone
+44 29208 79591
Email
DiamondH@caerdydd.ac.uk

Mae'r Athro Hanna Diamond yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar hanes a gwleidyddiaeth Ffrainc yn yr ugeinfed ganrif mewn perthynas â rhywedd a hanes llafar.

Picture of Heiko Feldner

Heiko Feldner

Darllenydd mewn Astudiaethau Almaeneg a Theori Feirniadol

Telephone
+44 29208 75598
Email
FeldnerHM@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Heiko Feldner yn croesawu ymholiadau'n ymwneud â hanes a chysyniad cyfalafiaeth, gwerthusiad o ideolegau cyfoes, yr ysgol barnu-gwerth Almaenig (Wertkritik) a pherthnasedd cyfoes Marx, Foucault a Žižek.

Gall Dr Dorota Goluch oruchwylio ymchwil ar theori cyfieithu a hanes, yn enwedig ar bynciau sy'n ymwneud â chyfieithu, ôl-drefedigaeth ac actifiaeth; Cyfieithu a derbyniad llenyddol Pwyleg; cyfieithu a'r Holocost; cyfieithu mewn amgueddfeydd coffa.

Picture of Claire Gorrara

Yr Athro Claire Gorrara

Deon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Astudiaethau Ffrangeg

Telephone
+44 29208 74955
Email
Gorrara@caerdydd.ac.uk

Gall yr Athro Claire Gorrara oruchwylio mewn meysydd yn ymwneud â hanes ac atgofion yr Ail Ryfel Byd yn Ffrainc; diwylliant poblogaidd a gwleidyddiaeth y cof; nofelau graffig ac ysgrifennu am hanes.

Mae'r Athro Kate Griffiths yn goruchwylio ar addasu a chyfieithu o unrhyw gyfnod o hanes mewn cyd-destunau Ffrengig a byd-eang. Mae'n hapus i weithio ar wahanol gyfryngau (radio, ffilm, teledu, theatr, llenyddiaeth) a gwahanol genhedloedd.

Picture of Charlotte Hammond

Dr Charlotte Hammond

Darlithydd mewn Astudiaethau Ffrangeg

Telephone
+44 29225 10103
Email
HammondC6@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Charlotte Hammond yn canolbwyntio ar hanes a gwaddol caethwasiaeth drefedigaethol yn y Caribî; perfformiad rhywedd, tecstilau a gwisg fel gwrthsafiad gwrth-drefedigaethol; mathau modern o gaethwasiaeth mewn cadwyni cyflenwi dillad.

Picture of Alastair Hemmens

Dr Alastair Hemmens

Senior Lecturer in French

Telephone
+44 29225 10105
Email
HemmensA@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Alastair Hemmens yn croesawu ceisiadau am oruchwylio ar bob maes yn hanes diwylliannol a deallusol modern Ffrainc. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar theori ac ymarfer Marcsaidd, gwrth-gyfalafiaeth a'r avant-garde yn Ffrainc yn yr ugeinfed ganrif.

Picture of Christopher Hood

Dr Christopher Hood

Darllenydd mewn Astudiaethau Japaneaidd

Telephone
+44 29208 74515
Email
HoodCP@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Christopher Hood yn cynnig goruchwylio ar amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud â Japan, yn cynnwys agweddau ar goffau a thwristiaeth dywyll.

No picture for Nicholas Hodgin

Dr Nicholas Hodgin

Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaenig

Telephone
+44 29225 10108
Email
HodginN@caerdydd.ac.uk

Hanesydd diwylliannol yw Dr Nick Hodgin gyda diddordeb penodol yn yr ugeinfed ganrif ac astudiaethau diwylliannol cyfoes, yn ogystal ag astudiaethau ffilm, astudiaethau'r cof ac astudiaethau trawma. Ei ddiddordebau ymchwil penodol yw diwylliant yr Almaen, yn enwedig diwylliant gweledol.

Picture of Cristina Marinetti

Dr Cristina Marinetti

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu

Telephone
+44 29208 74254
Email
MarinettiC@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Cristina Marinetti oruchwylio ymchwil ar theori cyfieithu, yn enwedig ar ymagweddau diwylliannol a chymdeithasegol at gyfieithu, hanes theatr a chyfieithu theatr a'r portread o amlieithrwydd yn yr Eidal gyfoes.

Picture of Ruselle Meade

Dr Ruselle Meade

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Japaneaidd, Cyfarwyddwr Ymchwil

Telephone
+44 29206 88488
Email
MeadeR@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Ruselle Meade oruchwylio ar bynciau'n ymwneud â hanes cyfieithu, yn enwedig mewn cyd-destunau Dwyrain Asia; hanes Modern Japan; ac atgofion rhyfel.

Picture of Jennifer Nelson

Dr Jennifer Nelson

Darlithydd mewn Portiwgaleg ac Astudiaethau Lwsoffon

Telephone
+44 29208 74585
Email
NelsonJ4@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Jenny Nelson yn croesawu ceisiadau am oruchwylio ar hanes Brasil yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hanes cymharol America Ladin, yr Iwerydd Lwsoffon, Diaspora Afficanaidd, caethwasiaeth a'i gwaddol yn America Ladin a'r Caribî.

Cysylltu â ni

Rydym ni'n cynnal seminarau gyda siaradwyr gwadd o'r byd academaidd a'r sectorau treftadaeth, yn ogystal â gweithdai, cynadleddau bach, byrddau crwn ac encilion darllen.

Os hoffech siarad yn un o'n digwyddiadau neu ymholi am ymchwil cysylltwch â Dr Jenny Nelson neu Dr Nick Hodgin.

Picture of Jennifer Nelson

Dr Jennifer Nelson

Darlithydd mewn Portiwgaleg ac Astudiaethau Lwsoffon

Telephone
+44 29208 74585
Email
NelsonJ4@caerdydd.ac.uk
No picture for Nicholas Hodgin

Dr Nicholas Hodgin

Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaenig

Telephone
+44 29225 10108
Email
HodginN@caerdydd.ac.uk