Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau ardal byd-eang seiliedig ar iaith

Woman With Smartphone stood in Tokyo
Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern wedi ennill ei phlwyf fel canolfan astudiaethau ardal.

Rydym ni'n astudio gwleidyddiaeth, cymdeithas, ieithoedd a diwylliannau ardaloedd (yn cynnwys Ewrop, Affrica, Tsieina ac America Ladin) ac mae gennym agenda uchelgeisiol i ailfeddwl 'astudiaethau ardal'.

Rydym yn gosod pwyslais ar ffenomena trawswladol, meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, a methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau wrth ymdrin ag argyfyngau ein hoes.

Ein nod yw

  • ailfeddwl a 'dad-drefedigaethu' astudiaethau ardal
  • chwalu rhwystrau rhwng disgyblaethau
  • mabwysiadu dulliau ymchwil arloesol a chreadigol
  • cynnig safbwyntiau damcaniaethol ffres.

Rydym ni'n canolbwyntio ar:

  • ieithoedd (amlieithrwydd, dysgu iaith, ieithyddiaeth)
  • mudiadau (gwleidyddol-gymdeithasol, deallusol, ideolegol, diwydiannol, anllywodraethol)
  • ffenomena (traws)wladol fel argyfwng a diwylliant.

Rydym ni'n meithrin grŵp o ymchwilwyr o safon fyd-eang â'r sgiliau creadigol a beirniadol i ymgymryd ag ymchwil gyd-destunol uchel ei heffaith. Mae gennym rwydweithiau a chyfnewidiadau ymchwil gydag academyddion ac ymarferwyr yn fyd-eang.

Ein gwaith

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern wedi hen ennill ei phlwyf fel canolfan ymchwil astudiaethau ardal, yn bennaf Astudiaethau Ewropeaidd, ac mae'n tynnu ar fodelau disgyblaethol sydd wedi denu cefnogaeth ymchwil gan sefydliadau sy'n cynnwys yr ESRC, yr AHRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, yr Academi Brydeinig a llywodraethau Cymru a'r DU.

Mae ein gwaith yn rhyngddisgyblaethol drwyddi draw, gan dynnu ar fethodolegau'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau a rhychwantu disgyblaethau fel sosioieithyddiaeth, cymdeithaseg, hanes, ideoleg, gwleidyddiaeth (ddiwylliannol), theori gritigol ac astudiaethau ardal. Mae'r ffaith ein bod i gyd yn defnyddio un iaith neu fwy, naill ai fel offeryn neu wrthrych ymchwil, yn ein huno.

Effaith ein hymchwil

Mae ein hymchwil yn ymgysylltu â chymdeithasau a diwylliannau neu'n effeithio arnynt, gan ein helpu i wneud synnwyr o'n byd.

Yng Nghymru, Claire Gorrara yw arweinydd academaidd prosiect a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy'n trefnu mentora i wella agweddau disgyblion at ieithoedd modern a chynyddu niferoedd TGAU.

Mae Elin Arfon ac Eira Jepson yn dilyn astudiaethau doethurol sy'n symud gwaith yn ei flaen ar werthuso ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Y tu hwnt i Gymru, mae ein hymchwil wedi effeithio ar Gyrff Anllywodraethol Gogleddol a Deheuol (Gordon Cumming), carchardai'r DU (Joey Whitfield), mudiadau cenedlaetholgar Catalanaidd (Andrew Dowling), undebau llafur Ffrainc (Nick Parsons) a llywodraeth Japan (Chris Hood).

Ymchwil PhD

Mae cyfleoedd PhD ar gael dan lwybr Astudiaethau Ardal yn Seiliedig ar Ieithoedd Byd-eang yn Rhaglen Hyfforddiant Doethurol Cymru. Rydym ni'n cynnull y llwybr hwn sy'n cynnig, gyda chymorth Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd, ysgoloriaethau doethurol ESRC cydweithredol ac agored.

Os yw eich ymchwil yn cyd-fynd â disgrifiad a nodau'r thema hon, a'ch bod yn yn dymuno cynnal eich astudiaethau MPhil neu PhD gyda ni, edrychwch ar broffiliau ein haelodau arbenigol o staff a chysylltwch â'n gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig.

Gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig

Ein goruchwylwyr PhD

Dr Elaine Chung

Dr Elaine Chung

Darlithydd mewn Tsieinëeg

Email
chunge@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Elaine Chung yn falch i gynnig goruchwyliaeth ym meysydd astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau'r cyfryngau, gyda phrosiectau ar wleidyddiaeth hunaniaeth diwylliannau De Korea, tir mawr Tsieina a Hong Kong yn cael croeso penodol.

Yr Athro Gordon Cumming

Yr Athro Gordon Cumming

Athro

Email
cumming@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5590

Mae'r Athro Gordon Cumming yn gweithio ar bolisïau tramor, diogelwch a datblygu Ewropeaidd, Ffrengig a Phrydeinig ynghylch Affrica. Byddai'n croesawu ceisiadau PhD yn y meysydd hyn ac ar Gyrff Datblygu Anllywodraethol.

Dr Andrew Dowling

Dr Andrew Dowling

Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Email
dowlinga@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5608

Mae Dr Andrew Dowling yn croesawu cynigion ar unrhyw faes yn ymwneud â hanes a gwleidyddiaeth Gatalaneg fodern, cenedlaetholdeb yn Sbaen ac agweddau damcaniaethol at genedlaetholdeb.

Heiko Feldner

Heiko Feldner

Darllenydd mewn Astudiaethau Almaenig a Theori Feirniadol

Email
feldnerhm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5598

Mae Dr Heiko Feldner yn croesawu ymholiadau'n ymwneud â hanes a chysyniad cyfalafiaeth, gwerthusiad o ideolegau cyfoes, yr ysgol barnu-gwerth Almaenig (Wertkritik) a pherthnasedd cyfoes Marx, Foucault a Žižek.

Yr Athro Claire Gorrara

Yr Athro Claire Gorrara

Dean for Research and Innovation for the College of Arts, Humanities and Social Sciences, Professor of French Studies

Email
gorrara@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4955

Gall yr Athro Claire Gorrara oruchwylio mewn meysydd yn ymwneud â hanes ac atgofion yr Ail Ryfel Byd yn Ffrainc; diwylliant poblogaidd a gwleidyddiaeth y cof; nofelau graffig ac ysgrifennu am hanes.

Dr Alastair Hemmens

Dr Alastair Hemmens

Senior Lecturer in French

Email
hemmensa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0105

Mae Dr Alastair Hemmens yn croesawu ceisiadau am oruchwylio ar bob maes yn hanes diwylliannol a deallusol modern Ffrainc. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar theori ac ymarfer Marcsaidd, gwrth-gyfalafiaeth a'r avant-garde yn Ffrainc yn yr ugeinfed ganrif.

Dr Christopher Hood

Dr Christopher Hood

Darllenydd mewn Astudiaethau Japaneeg

Email
hoodcp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4515

Mae Dr Christopher Hood yn cynnig goruchwylio ar amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud â Japan, yn cynnwys agweddau ar goffau a thwristiaeth dywyll.

Dr Abdel-Wahab Khalifa

Dr Abdel-Wahab Khalifa

Darlithydd mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ieithoedd Arabeg i Bawb

Email
khalifaa9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6246

Mae Dr Abdel-Wahab Khalifa yn cynnig goruchwylio mewn llenyddiaeth Arabeg (mewn cyfieithiad), cyfieithu'r cysygredig, cyfieithu ar y pryd mewn parthau gwrthdaro a sefyllfaoedd ôl-wrthdaro, brocera iaith plant, a'r Rhyfel Oer yn y Dwyrain Canol.

Dr Jennifer Nelson

Dr Jennifer Nelson

Darlithydd mewn Portiwgaleg ac Astudiaethau Lwsoffon

Email
nelsonj4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)2920 874585

Mae Dr Jenny Nelson yn croesawu ceisiadau am oruchwylio ar hanes Brasil yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hanes cymharol America Ladin, yr Iwerydd Lwsoffon, Diaspora Afficanaidd, caethwasiaeth a'i gwaddol yn America Ladin a'r Caribî.

Yr Athro Fabio Vighi

Yr Athro Fabio Vighi

Athro Eidaleg a Theori Feirniadol

Email
vighif@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5605

Gall yr Athro Fabio Vighi oruchwylio ymchwil ar theori gritigol, athroniaeth gyfandirol, gwerthuso ideoleg, theori seicoddadansoddol, diwylliant cyfoes yr Eidal a sinema Ewropeaidd a'r Byd.

Dr Xuan Wang

Dr Xuan Wang

Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Tsieinëeg

Email
wangx154@caerdydd.ac.uk
Dr Joey Whitfield

Dr Joey Whitfield

Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Email
whitfieldj1@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Joey Whitfield oruchwylio pynciau mewn Astudiaethau Llenyddol, Ffilm a Diwylliannol America Ladin, yn enwedig pynciau'n gysylltiedig â throseddu, carchardai a chyfiawnder.

Cysylltu â ni

Rydym ni'n cynnal seminarau, cyflwyniadau PhD, sgyrsiau gwadd, cynadleddau, cyhoeddiadau, gweithdai dulliau a gweminarau. Mae ein hysgolheigion yn darparu sylwadau arbenigol i'r cyfryngau ac yn rhedeg unedau nodedig fel Canolfan Žižek (a redir ar y cyd gan Fabio Vighi a Heiko Feldner).

Os hoffech siarad yn un o'n digwyddiadau neu ymholi am ymchwil cysylltwch â'r Athro Gordon Cumming.

Yr Athro Gordon Cumming

Yr Athro Gordon Cumming

Athro

Email
cumming@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5590