Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ein hymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Rydym ni'n gweithio gyda llunwyr polisïau, cyrff anllywodraethol, ysgolion a sector y celfyddydau a threftadaeth i gyd-greu ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, barnwyd bod dros 80% o'r ymchwil a gyflwynwyd gennym i'r Uned Asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn dwyn ynghyd y gwaith a wnaed gan gydweithwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg, sy'n rhannu diddordeb arbennig mewn dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawswladol o ymdrin â diwylliannau llenyddol a gweledol, cyfieithu, treftadaeth a sosioieithyddiaeth. O ganlyniad, daethom yn 9fed yn y DU am effaith ymchwil.

Rydym yn ymrwymo i ddatblygu effaith ein hymchwil, yng Nghymru a thu hwnt. Rhestrir y prosiectau sy'n amlygu cwmpas a natur effaith ein hymchwil yma.

Uchafbwyntiau

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

Model mentora ar gyfer dysgu ieithoedd a’r tu hwnt

Model mentora ar gyfer dysgu ieithoedd a’r tu hwnt

Mae ymchwil o dan adain Prifysgol Caerdydd wedi dylanwadu ar bolisïau ac arferion ac annog disgyblion Cymru i ddysgu ieithoedd.

Dylanwadu ar gynlluniau a pholisïau ieithyddol yng Nghymru ac Iwerddon

Dylanwadu ar gynlluniau a pholisïau ieithyddol yng Nghymru ac Iwerddon

Research led by Professor Diarmait Mac Giolla Chríost on the efficacy of Language Commissioners achieved improved outcomes for Welsh and Irish speakers.

Uchafbwyntiau'r gorffennol

Dan arweiniad yr Athro Claire Gorrara mae'r Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn edrych ar ffyrdd effeithiol i hyrwyddo a chyflwyno dysgu iaith. Nod yr ymchwil yw cynyddu'r niferoedd sy'n dewis iaith ar gyfer TGAU a gwella cyswllt y dysgwr gyda manteision amlieithrwydd.

Cyllidir y prosiect gan Lywodraeth Cymru ac fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe mewn cydweithrediad â'r pedwar consortiwm addysgol yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn hyfforddi ieithyddion israddedig i weithredu fel mentoriaid i ddisgyblion Blwyddyn 8 a 9. Mae wedi bod ar waith yn 90 o 203 ysgol uwchradd Cymru hyd yma. Mae mentora, hyfforddiant ac ethos y prosiect yn cael effaith sylweddol ar y niferoedd o fyfyrwyr sy'n dewis ieithoedd ar gyfer TGAU, gan fwy na dyblu'r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae'r ymchwil a gynhyrchir gan y prosiect hefyd yn edrych ar fanteision ehangach cyfathrebu rhyngddiwylliannol a sut gall ysgolion a phrifysgolion annog dyheadau at astudio yn y brifysgol mewn grwpiau mwy difreintiedig. Roedd y prosiect yn un o chwe phrosiect ar y rhestr fer am arloesedd a meithrin partneriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2020.

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect yn Gorrara, C.et al. 2020. Multilingual perspectives: preparing for language learning in the new curriculum for Wales. Curriculum Journal 31(2), pp. 244–257.

Hanna Diamond, Athro mewn Hanes Ffrainc yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, yw'r unig hanesydd Prydeinig i'w phenodi ar fwrdd ymgynghorol Amgueddfa Rhyddhau Paris. Bu'n cydweithio'n agos gyda Dr Sylvie Zaidman, prif guradur a chyfarwyddwr yr Amgueddfa, yn cynllunio a gosod arddangosfa barhaol newydd, gan fanteisio ar ffocws ei hymchwil i'r ffyrdd y profodd dynion a menywod yn Ffrainc yr Ail Ryfel Byd.

Bu hefyd yn cydweithio gyda Zaidman ar arddangosfa dros dro gyntaf yr amgueddfa yn 2020, i nodi 80fed pen-blwydd yr 'Ecsodus' pan ffodd dwy filiwn o ddynion, menywod a phlant o Baris mewn ychydig ddyddiau, ar ôl clywed bod yr Almaenwyr yn agosáu at brifddinas Ffrainc. Mae ymchwil Hanna wedi helpu i hysbysu'r cyhoedd am foment allweddol yn y rhyfel sydd wedi'i anwybyddu tan nawr.

Mae Cyhoeddi Carcharorion yn datblygu rhaglenni cyhoeddi mewn carchardai yn y DU a Mecsico drwy ddulliau a brofwyd mewn amgylcheddau heriol yn America Ladin.

Caiff y prosiect a gyllidir gan yr AHRC ei redeg gan y darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, Dr Joey Whitfield a Lucy Bell o Brifysgol Surrey a chaiff ei hwyluso drwy gydweithio gyda'r cyhoeddwyr llawr gwlad ffeministaidd ym Mecsico, Colectiva Editorial Hermanas en la Sombra, a'r cyhoeddwyr La Rueda CartoneraViento Cartonero.

Mae cyhoeddi Cartonera yn fudiad a ddechreuodd yn yr Ariannin oedd wedi'i tharo gan y cwymp ariannol ddechrau'r 2000au, pan ddyfeisiodd cyd-fentrau ar lawr gwlad ddulliau o fasgynhyrchu llyfrau'n rhad, yn defnyddio gwastraff wedi'i uwchgylchu.

Mae'r Cartoneras a'r Hermanas en la Sombra yn defnyddio llenyddiaeth i hyrwyddo effeithiau cymdeithasol a lles cadarnhaol mewn mannau lle mae pobl yn wynebu lefelau uchel o eithrio, stigma a thrais, ac yn helpu pobl a chymunedau i gryfhau a newid er gwell. Mae'r prosiect hwn yn eu cefnogi i ehangu eu gwaith gan archwilio sut y gellir mabwysiadu ac addasu eu modelau mewn gwahanol garchardai a chymunedau ymylol ym Mecsico a'r DU.

Mae prosiect 'Grymuso Cyrff Anllywodraethol i Fonitro a Gwerthuso' yn tynnu ar ymchwil a phrofiad maes yr Athro Gordon Cumming dros ddau ddegawd.

Galluogodd ymchwil Cumming iddo nodi rhwystrau sy'n atal Cyrff Anllywodraethol llai o faint rhag cynnal gwaith Monitro a Gwerthuso ar eu prosiectau, a datblygu dull newydd 'dull 1-2-3', sy'n galluogi'r cyrff i wneud hynny.

Ar ôl hyfforddi cyrff anllywodraethol yng Nghymru ac Affrica yn llwyddiannus yn y dull hwn, gofynnodd Hyb Cymru Affrica a Llywodraeth Cymru i Cumming a fyddai modd i’r dull fod ar gael yn ehangach. I'r perwyl hwn, creodd wefan monitro a gwerthuso hygyrch a phecyn cymorth cam wrth gam ynghyd â thiwtorial fideo mewn chwe iaith, rhestr geirfa, cyfieithiad Cymraeg, templedi i'w lawrlwytho, casgliad o offer traddodiadol, ynghyd â manylion y dull 1-2-3 Llawn, Dull 1-2-3 Cyflym i Gyrff Anllywodraethol a Dull 1-2-3 Cyflym i wirfoddolwyr.

Bellach mae'r pecyn cymorth electronig wedi'i wreiddio yng nghynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol rhaglen Cymru ac Affrica ac mewn rhaglenni hyfforddi gan gyrff sy'n cydlynu cyrff anllywodraethol fel y WCVA, ac mae wedi galluogi sefydliadau sy’n gwerthuso a rhai sydd wedi'u gwerthuso i sicrhau mwy o adnoddau, eu defnyddio'n fwy effeithiol ar lawr gwlad a gwella llesiant buddolion targed.