Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu

Fideo yn edrych ar ymgysylltu cyhoeddus yn ein hymchwil

Mae ymgysylltu yn rhan annatod o waith academaidd yr Ysgol Meddygaeth ac mae’n hollbwysig er mwyn gwella gweithgareddau craidd yr Ysgol - ymchwil, addysg a hyfforddiant.

Mae ymgysylltu yn creu dialog ac ymddiriedaeth rhwng ymchwil a chymdeithas. Mae’n gofalu bod canlyniadau ein gwaith yn mynd y tu hwnt i feysydd traddodiadol academaidd, busnes a llywodraeth.

Mae'n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ac yn ehangu a llywio agwedd y cyhoedd. Mae hefyd yn gwella ansawdd, perthnasedd ac effaith ein hymchwil ac yn cyfrannu at economi a lles cymdeithasol yn y dyfodol.

Edrychwch ar ein gweithgarwch

Engagement activities

Gweithgareddau ymgysylltu

Rydym yn cynnal ystod eang o weithgareddau, yn gweithio gydag ysgolion ac yn cynnwys y cyhoedd a chleifion yn ein hymchwil.

Nodau

Engagement visual
  • Ysgogi cymuned ymchwil atblygol ac ymatebol sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd yn y cylch ymchwil pan mae gwaith i'w wneud, a phan mae cynnwys y cyhoedd yn ychwanegu gwerth ac yn cael yr effaith fwyaf.
  • Cyfoethogi a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr, datblygu sgiliau a hau’r hadau fydd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent.

Rydym yn ymgysylltu drwy siarad, gwrando, ysbrydoli, hysbysu, bod yn berthnasol a chyfrannu.

Rhagor o wybodaeth

Os oes diddordeb gennych mewn ymgysylltu â ni, neu os hoffech gael gwybod rhagor am ein gweithgareddau ymgysylltu, cysylltwch â:

Ymgysylltu Meddygaeth