Ewch i’r prif gynnwys

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Rydym yn cynnig cyfle i astudio rhan o'ch gradd mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gan Brifysgol Caerdydd y nifer fwyaf o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru.

Rydym wedi cydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu darpariaeth mewn ffordd benodol a strategol ar gyfer y myfyrwyr hyn. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda phrifysgolion eraill ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd Cymraeg i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr sy'n astudio mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymwys i geisio am Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg.

Modiwlau a thiwtorialau

Rydym yn cynnig dosbarthiadau tiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un o fodiwlau mathemateg craidd y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn dosbarthiadau tiwtorial cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â Mathew Pugh.

Rydym hefyd yn cynnig ddau modiwl yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg, modiwl ail flwyddyn ar datrys problemau mathemategol a modiwl trydydd blwyddyn ar gyflwyniad i addysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd. Mi all myfyrwyr hefyd gwneud prosiect blwyddyn olaf trwy'r Gymraeg.

Mae'r modiwl Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd wedi'i ddylunio i annog myfyrwyr i ystyried gyrfa yn addysgu mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o addysg mathemateg a strwythur y cwricwlwm ar lefel ragarweiniol. Caiff lleoliadau mewn ysgolion uwchradd lleol eu darparu fel rhan o'r modiwl hwn.

Adnoddau

Mae adnoddau addysgu mathemateg cyfrwng Cymraeg ar gael ar gyfer ein modiwlau craidd ar lwyfan e-ddysgu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Y Porth. Mae'r rhain yn cynnwys yr adnoddau canlynol:

CCC11029: Deunyddiau Cefnogi Mathemateg

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys nodiadau sy'n ymdrin â'r pynciau canlynol: rhifau; anghydraddoldebau; swyddogaethau; gwahaniaethu; integreiddio; a swyddogaethau dadansoddi. Mae'r nodiadau hyn yn cynnwys sawl enghraifft ac ymarferion.

MTH1001: Paratoi Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys chwe phecyn adnoddau yn ymwneud ag egwyddorion craidd sylfaenol mathemateg a ffiseg: gwahaniaethu; integreiddio; fectorau a matricsau; swyddogaethau esbonyddol a logarithmig; trigonometreg a rhifau cymhlyg; ac ystadegau.

Mae'r pecynnau hyn yn cynnwys ymarferion a datrysiadau, gyda'r bwriad o feithrin hyder myfyrwyr wrth ymdrin â phynciau a therminoleg fathemategol yn Gymraeg.

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Dr Mathew Pugh

Dr Mathew Pugh

Uwch-ddarlithydd

Siarad Cymraeg
Email
pughmj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6862