Ewch i’r prif gynnwys

Hanes Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 1800au pan agorodd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ei ddrysau am y tro cyntaf. Mae ein traddodiad balch yn y pwnc wedi tyfu dros y degawdau, gan esblygu i'r gymuned ffyniannus o academyddion uchel eu parch a myfyrwyr uchel eu cyflawniad a welwn heddiw.

1880au

  1. 1883 Sefydlwyd y Brifysgol

    Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy yn agor, dan arweiniad y Pennaeth John Viriamu Jones, ffisegydd ifanc gwych 27 oed, yn goruchwylio tîm cychwynnol o 13 staff academaidd a recriwtiwyd am eu rhagoriaeth, yn lleol a thramor, gan gynnwys Ffrainc, y Swistir ac India.

    O'r 13 aelod o staff academaidd oedd yno ar adeg y sefydlu, penodwyd H.W. Lloyd Tanner FRS, arbenigwr mewn hafaliadau differol, yn Athro Mathemateg a Seryddiaeth yn 32 oed, swydd y bu ynddi yng Nghaerdydd am 26 mlynedd tan iddo ymddiswyddo yn 1909.

1910au

  1. 1910 Athro Mathemateg Newydd

    Yr Athro R.H. Pinkerton, awdur gwerslyfrau mewn dynameg a hydrostateg yn ogystal â thrigonometreg, yn olynu'r Athro Lloyd Tanner.

1920au

  1. 1923 Athro Newydd mewn Mathemateg Bur a Chymhwysol

    Yr Athro Pinkerton yn gadael Caerdydd. Penodir ei olynydd, G.H. Livens, yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol. Mae llyfr yr Athro Livens, The Theory of Electricity yn dal i fod mewn print gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt.

    Mae'r Adran Mathemateg yn parhau’n yn fach iawn gyda dau neu dri aelod o staff addysgu yn unig.

1950au

  1. 1951 Twf yr Adran Fathemateg

    Mae'r Adran Mathemateg yn dechrau ehangu pan olynir yr Athro Livens gan yr Athro Lionel Cooper, a enillodd Wobr Berwick, yn fuan cyn hynny yn 1949, blwyddyn pan oedd ei ohebiaeth yn cynnwys dau lythyr gan Albert Einstein yn ymwneud ag anghysonderau rhesymegol posibl mewn mecaneg cwantwm.

    Roedd yr Athro Cooper yn gweithio mewn theori gweithredwr, theori trawsnewid, theori swyddogaethol a hafaliadau differol. Rhwng 1952 a 1959 bu'n golygu trafodion y London Mathematical Society

1960au

  1. 1962 Rhaniad ar gyfer Mathemateg

    Rhennir yr Adran Mathemateg yn ddwy, gan adlewyrchu deuoliaeth Caergrawnt yn union: Mathemateg Bur ac Ystadegau Mathemategol dan yr Athro Cooper, a Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Fathemategol dan yr Athro Peter Landsberg sy'n benodiad newydd.

  2. 1964 Anhrefn ar gyfer Mathemateg!

    Mae'r Athro Cooper yn gadael ac yna ceir dwy flynedd o "anrhefn" gyda phenaethiaid gweithredol mewn Mathemateg Bur ac Ystadegau Mathemategol.

  3. 1967 Rhennir yr adran am yr eildro

    Rhennir yr adran am yr eildro. Mae'r Athro Christopher Hooley FRS yn cymryd yr awenau'n Bennaeth yr Adran Mathemateg Bur newydd.

    Nododd teyrnged y Gymdeithas Frenhinol i'r Athro Christopher Hooley FRS: "Roedd rhagflaenydd Hooley yng Nghaerdydd, Aubrey Ingleton wedi ymddiswyddo am resymau teuluol ar ôl blwyddyn yn unig, ac roedd yn gyfnod anodd i Goleg y Brifysgol ddod o hyd i olynydd addas. Croesawyd dyfodiad Hooley gyda chryn ryddhad, a llawenydd yn naturiol. Buan iawn y creodd Hooley grŵp pwerus o ddamcaniaethwyr rhifau dadansoddol gan atgyfnerthu cryfderau dadansoddi a theori grŵp oedd eisoes yn bodoli."

    Kemp yn cymryd yr awenau'n Bennaeth yr Adran Ystadegau Mathemategol ac Ymchwil Weithrediadol newydd.

    .

  4. 1969 Creu UWIST

    Caiff Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ei greu gydag un Adran Mathemateg, gan olygu bod gan ddinas Caerdydd bedair adran mathemateg.

1970au

  1. 1972 Adran Mathemateg Cyfrifiadureg Newydd

    Penodir Bob Churchhouse yn bennaeth yr Adran Mathemateg Cyfrifiadura newydd, gan olygu bod pedair adran yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, ac adran arall yn UWIST.

  2. 1972-73 Pennaeth benyw cyntaf

    Dr Rosa Morris yw Pennaeth Dros Dro Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Fathemategol, ond ni chofnodir hyn yn y calendrau gan fod ymadawiad yr Athro Landsberg mor sydyn. Credir mai hi yw un o'r menywod cyntaf i fod yn Bennaeth Ysgol Mathemateg drwy'r wlad.

  3. 1973 Pennaeth newydd

    Daw N.C. Wickramasinghe yn bennaeth Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Fathemategol.

1980au

  1. 1988 Uno ag UWIST

    Uno ag UWIST. Penodir yr Athro Hooley yn Bennaeth yr Ysgol Mathemateg, gyda 30 aelod o staff.

1990au

  1. Canol y 1990au Ysgol Cyfrifiadureg

    Mathemateg Cyfrifiadura yn parhau'n Ysgol ar wahân ac yn newid ei henw i Gyfrifiadureg.

  2. 1995 Yr Athro Hooley yn ymddeol

    Yr Athro J.W. Griffiths, Pennaeth yr Adran yn UWIST ar adeg yr uno, sy'n cymryd yr awenau. Parhaodd yr Athro Hooley yn Athro Ymchwil Nodedig Anrhydeddus yng Nghaerdydd tan 2008.

  3. 1995-2006 Rhannodd Pennaeth yr Ysgol

    Mae'r Athro J.W. Griffiths a'r Athro W.D. Evans yn rhannu swydd Pennaeth yr Ysgol, gan gyfnewid yn flynyddol yn aml.

2000au

  1. 2006 Pennaeth newydd yr Ysgol

    Yr Athro Russell Davies, mathemategydd cymhwysol a chyfrifiannol, yn cymryd yr awenau. Mae'r Athro Davies yn parhau yn ei swydd yn bennaeth yr Ysgol am wyth mlynedd.

2010au

  1. 2014-2021 Pennaeth newydd a thwf Mathemateg

    Penodir yr Athro Tim Phillips, arbenigwr mewn Mecaneg Hylif, yn Bennaeth yr Ysgol Mathemateg. Mae'r Ysgol yn ehangu'n gyflym, gan agosáu at 50 aelod o staff llawn amser yn 2021. Er mwyn darparu ar gyfer y fath ehangu, mae cyfnod yr Athro Phillips wedi cynnwys codi adeilad newydd yn gartref i'r Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Y presennol

  1. 2021 Cyfnod newydd i Fathemateg yn Abacws

    Mae'r Ysgol Mathemateg yn symud i adeilad newydd pwrpasol Abacws. Mae'r cyfleuster blaenllaw hwn, sy'n cael ei rannu â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn arloesi ffordd o weithio i Brifysgol Caerdydd sy'n ymgorffori cydweithio a gweledigaeth ar y cyd tra'n cadw hunaniaethau gwahanol y ddwy Ysgol.

Mae trosolwg o'r dyddiadau allweddol yn esblygiad Prifysgol Caerdydd wedi'i amgodio mewn pos a luniwyd yn arddull epigram Diophantus (tua'r flwyddyn 200). Fe'i darllenwyd ar raglen Today ar Radio 4 ym mis Tachwedd 2019.

Allwch chi ddatrys yr epigram heb edrych ar yr ateb?