Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae'r Ysgol Mathemateg bellach yn adeilad gwych newydd Abacws.

Rydyn ni’n rhannu ein cartref newydd â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ac oherwydd hyn byddwn ni’n gallu gwella’r gwaith presennol ar y cyd a wnawn yn ogystal â chydweithio ym maes ymchwil yn y dyfodol, yn enwedig o ran cyfuniadeg, optimeiddio, dadansoddi data a dysgu peirianyddol.

Adeilad chwe llawr trawiadol a adeiladwyd yn unswydd i ddiwallu anghenion ein disgyblaeth yw Abacws, a chafodd ei ddylunio mewn ymgynghoriad â staff a myfyrwyr i sicrhau bod dysgu ac addysgu effeithiol wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei gyflawni.

Mae Abacws yn cynnig y gorau o ran lleoedd addysgu newydd, gan gynnwys darlithfeydd ac ystafelloedd seminar sy’n ein hannog i gydweithio a meddwl yn greadigol.

Mae nifer o leoedd arbenigol yn yr adeilad sy’n golygu bod y myfyrwyr yn gallu gweithio mewn ffordd gyfforddus ac anffurfiol, naill ai ar brosiectau grŵp neu’n astudio ar eu pennau eu hunain.

Ymhlith y nodweddion allweddol eraill y mae:

  • Ystafell Fasnachu ffug newydd at ddibenion mathemateg ariannol
  • Labordai cyfrifiadurol a ddyluniwyd i ganiatáu gwaith grŵp yn ogystal â dosbarthiadau a’r cyfle i astudio ar eich pen eich hun
  • Ystafelloedd seminar a darlithfeydd hyblyg sy’n meddu ar gynllun arloesol er mwyn annog pobl i ryngweithio
  • Mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect
  • Mannau y gall ein partneriaid diwydiannol eu defnyddio a bydd y rhain yn rhoi cyfleoedd ymgysylltu rhagorol i'n myfyrwyr.