Ewch i’r prif gynnwys

SERENITY

Logos of Serenity Study
Logos of organisations associated with the Serenity project.

SERENITY Tuag at Rymuso Cleifion sydd â Chanser er mwyn Sichrau’r Defnydd Gorau Posibl o Therapi Gwrththrombotig ar Ddiwedd Oes

Disgrifiad byr

Mae datblygu a gwerthuso offeryn i hwyluso penderfyniadau a rennir, sydd â’r nod o gefnogi cleifion, eu cymdeithion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth iddynt wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy’n wybodus ynghylch rhoi presgripsiwn meddyginiaeth wrththrombotig i’r rheiny sydd tua diwedd eu hoes.

Cefndir

Mae cynllunio gofal - cwrs uwch ar gyfer cleifion sydd â salwch terfynol sy’n cyfyngu ar eu bywydau bellach yn safon aur ar gyfer gofal ledled Ewrop. Un elfen o hyn yw’r broses a elwir yn rhesymoli meddyginiaethau, sy'n cynnwys dibrisio meddyginiaethau nad ydynt yn angenrheidiol mwyach ac/neu sy’n niweidiol o bosib.

Mae'r penderfyniad a ddylid parhau â therapïau gwrththrombotig, megis meddyginiaethau gwrthgeulyddion neu feddyginiaethau gwrthblatennau mewn cleifion canser sydd ar ddiwedd eu hoes ai peidio yn neilltuol o gymhleth ac yn aneglur oherwydd y diffyg tystiolaeth, a chan hynny, dyma ffocws yr astudiaeth hon.

Nodau

Mae datblygu a gwerthuso offeryn i hwyluso penderfyniadau a rennir, sydd â’r nod o gefnogi cleifion, eu cymdeithion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth iddynt wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth sy’n wybodus ynghylch rhoi presgripsiwn meddyginiaeth wrththrombotig i’r rheiny sydd tua diwedd eu hoes.

Dulliau

Bydd y gwaith sydd ynghlwm wrth ddatblygu a gwerthuso'r offeryn hwyluso penderfyniadau ar y cyd yn cael ei gyflawni ar draws 8 o wledydd ac o fewn 14 sefydliad ymchwil ledled y DU ac Ewrop. Mae'r astudiaeth yn cynnwys y pecynnau gwaith canlynol (WP):

  • Adolygiad llenyddiaeth (WP1)
  • archwiliad 'flash mob' o’r arfer cyfredol (WP1)
  • Dadansoddi’r arfer cyfredol trwy’r gronfa ddata epidemiolegol (mewn 3 gwlad) (WP2)
  • cynnal cyfweliadau ansoddol gyda chleifion, eu cymdeithion, a chyda rhanddeiliaid clinigol (WP3)
  • Defnyddio Delphi er mwyn llywio cynnwys a dyluniad yr offeryn penderfynu a rennir (ar ffurf ap) (WP4)
  • datblygu'r offeryn gwneud penderfyniadau a rennir i'w ddefnyddio ar ffurf ap (WP5)
  • Gwerthuso’r offeryn yn erbyn yr arfer safonol (WP6)

Mae’r strategaeth Ewropeaidd o ran ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n cyd-fynd â'r astudiaeth hon hefyd ar waith drwyddi draw yn y pecynnau gwaith yn SERENITY, ac sydd dan arweiniad y Ganolfan Ymchwil Marie Curie yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae effaith cynnwys y cyhoedd yn SERENITY wedi cael, ac yn parhau i gael, ei chynllunio a'i holrhain gan ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd ym maes Effaith Ymchwil (PIRIT) a ddatblygwyd yn ddiweddar.

Ceir rhagor o wybodaeth ar ywefan SERENITY.

Cynnydd

Mae pecynnau gwaith rhif 1-3 ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd y pecynnau gwaith hyn yn trwytho’r pecynnau gwaith dilynol. Mae pecyn gwaith 5 hefyd ar y gweill.

Effaith

Mae'r astudiaeth hon ar waith ar hyn o bryd. Cydweithrediad rhyngwladol yw SERENITY, a’i nod yw ceisio ateb cwestiwn ymchwil o bwys mawr ar hyn o bryd ym maes clinigol â pheth ansicrwydd a fydd yn peri mwy o her wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen.

Gwybodaeth

Prif ymchwilyddYr Athro Simon Noble
AriannwrHorizon Europe / Innovate UK
Ymholiadau cyffredinolDr Kate Lifford
Dyddiad dechrauHydref 2022
Dyddiad gorffenMedi 2027
StatwsAr waith
Cymeradwyaeth foesegolSicrheir cymeradwyaeth foesegol ym mhob gwald ac ar gyfer pob pecyn gwaith, fel y bo’n briodol.