Ewch i’r prif gynnwys

Safonau Daffodil Meddygon Teulu

GP Daffodil Standards Logos

Safonau Daffodil Meddygon Teulu: Gwerthusiad annibynnol o weithrediad a’r defnydd o’r Safonau Daffodil (DS) ar gyfer Meddygon Teulu

Cefndir


Mae gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn rhoi'r rhan fwyaf o ofal diwedd oes i gleifion. Fodd bynnag, gall pwysau a chyfyngiadau helaeth gyfrannu at ansawdd gofal amrywiol ac is-safonol.

Ym mis Chwefror 2019, lansiodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Marie Curie 'Safonau Daffodil ar gyfer Salwch Difrifol Uwch a Gofal Diwedd Oes' – dull strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi meddygon teulu i wella a chynnal gweithgareddau a all arwain at ofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd uchel i gleifion a gofalwyr.

Comisiynwyd gwerthusiad annibynnol o weithrediad a'r defnydd o’r Safonau Daffodil gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Marie Curie.

Nodau

Gwerthuso'r lefel bresennol o weithgareddau gofal diwedd oes (EOL) a lliniarol a gynhelir ar draws feddygfeydd teulu yn y DU.

Adnabod y ffactorau a'r mecanweithiau a all arwain at weithredu’r Safonau Daffodil yn ehangach.

Dulliau


Mae hon yn astudiaeth hydredol aml-ddull mewn tri cham.

Cam 1

Arolwg ar-lein i adnabod pa weithgareddau mae meddygfeydd teulu yn defnyddio.

Cam 2

Cyfweliadau â staff meddygfeydd teulu i adnabod pa brosesau a mecanweithiau sy'n cael eu defnyddio wrth weithredu'r safonau

Cam 3

Astudiaethau achos i asesu sut i weithredu’r safonau yn ehangach.

Cynnydd


Mae'r arolwg ar-lein (Cam 1) yn fyw ac yn agored i holl Feddygfeydd Teulu’r DU.  Mae’r data ansoddol a meintiol yn cael eu dadansoddi wrth i ymatebion dod i law.

Byddwn yn cysylltu â chyfranogwyr cymwys o Gam 1 (arolwg) i gymryd rhan mewn cyfweliad (Cam 2).  Mae un cyfweliad wedi'i gwblhau ar hyn o bryd.

Bydd y dulliau ar gyfer Cam 3 yn cael eu cadarnhau yn seiliedig ar y data o Gamau 1 a 2.

Gwybodaeth

Prif ymchwilwyrDr Stephanie Sivell a'r Athro Andy Carson-Stevens
Ymholiadau cyffredinolDelyth Price
AriannwrRhaglen Werthuso Marie Curie
Dyddiad dechrau1 Mawrth 2022
Dyddiad gorffen29 Chwefror 2024
StatwsAr waith
Cymeradwyaeth foesegMae Cam 1 (Arolwg Ar-lein) a 2 (Cyfweliadau) yn cael eu hystyried yn gwerthusiad gwasanaeth. Byddwn yn gofyn am gymeradwyaeth foesegol ar gyfer Cam 3 (Astudiaethau Achos) maes o law.
Rhwydweithiau ymchwilMarie Curie, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Profiad Bywyd - Tiwmor yr Ymennydd a Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, Grŵp Cyd-gynhyrchu Strategol Gofal Personol GIG Lloegr, Canolfan PRIME , Grŵp PRIME SUPER.