Ymchwil
Mae ein gwaith yng Nghymru ers 2010 wedi cyfrannu at raglen astudiaethau ymchwil gofal lliniarol sy’n ehangu. O ganlyniad, cafwyd dros £11m o arian allanol yn ogystal â chynnydd yn nifer y cleifion a recriwtiwyd, o bedwar claf y flwyddyn i dros 160 claf y flwyddyn.
Ein nod yw datblygu a chefnogi ymchwil sydd wedi'i dylunio'n dda ym maes gofal lliniarol gyda phwyslais ar ddyluniad a dulliau cynnal astudiaethau ymarferol fydd yn arwain at roi gofal gwell i gleifion.
Rydym bob amser yn gweithio gyda chleifion a gofalwyr er mwyn dod i wybod beth yw eu blaenoriaethau, a'r ffyrdd gorau o gynnal ymchwil. Rydym yn parhau i roi neges glir bod cleifion gofal lliniarol am gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ac y dylent gael mynediad at nifer cyfatebol o astudiaethau fel cleifion canser, cardiaidd, resbiradol a niwrolegol.
Mae ein hymchwil yn cwmpasu amrywiaeth o fethodolegau a mathau o ymchwil, gan gynnwys:
- astudiaethau dulliau cymysg aml-ganolfan
- treialon clinigol cyfnod 3 ar raddfa eang
- addysgu a goruchwylio myfyrwyr PhD, MSc ac ymsang
- prosiectau gwerthuso
Gallwn gynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.