Amdanom ni

Our research aims to directly improve the care and experience of patients and their carers in the advanced stages of illness.
We want to help people live as well as they can for as long as they can, with the focus on symptom control and quality of life.
Our research spans all areas of palliative and supportive care. This includes cancer and non-cancer conditions, and the care of patients from diagnosis of a life-limiting condition through treatment, until death, , or past cure to the late effects of treatments.
Pwy ydym ni
Rydym yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, gyda chysylltiadau uniongyrchol ag Uned Treialon Canser Cymru yng Nghanolfan Treialon Canser Caerdydd. Mae ein lleoliad yn ein galluogi i ymgysylltu â Marie Curie a hosbisau, yn ogystal â chydweithwyr academaidd a chlinigol ar draws y DU, a grwpiau ymchwil sydd ag ystod eang o ddiddordebau.
Rydym hefyd yn aelod o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn arwain ar thema ymchwil Gofal Lliniarol a Chefnogol a Chynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn y Ganolfan hon. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys:
- oncolegwyr
- nyrsys
- ffisiotherapyddion
- gwyddonwyr chwaraeon
- seicolegwyr
- gwyddonwyr labordy
- ystadegwyr
- arbenigwyr TG.
Ers ein sefydlu yn 2010, rydym wedi denu dros £11m o arian allanol, gan ddod â buddsoddiad o'r tu allan i mewn i Gymru a chreu swyddi ymchwil newydd.
Mae ein hymchwilwyr profiadol yn cydweithio ar ymchwil ragorol sy’n flaenoriaeth genedlaethol ac sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y claf a'r gofalwr.