Ewch i’r prif gynnwys

BeCOVID

Cefnogi pobl a gafodd brofedigaeth yn ystod COVID-19: astudiaeth dulliau cymysg o brofiadau pobl a gafodd brofedigaeth a’r gwasanaethau profedigaeth sy’n eu cefnogi.

Crynodeb

Mae COVID-19 yn effeithio ar brofiadau galar pobl a gafodd brofedigaeth yn ystod y pandemig, a hefyd yn effeithio ar y gwasanaethau profedigaeth sy'n eu cefnogi. Mae hon yn astudiaeth dulliau cymysg yn ymchwilio i brofiadau ac anghenion pobl mewn profedigaeth a gwasanaethau profedigaeth mewn tri phecyn gwaith:

Pecyn Gwaith 1: Arolwg o'r DU ar dri phwynt amser: llinell sylfaen, saith mis a 13 mis yn dilyn y farwolaeth. Bydd recriwtio yn digwydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol, sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a sefydliadau profedigaeth. Bydd cwestiynau'n ymchwilio i effaith profiadau diwedd oes ac ar ôl marwolaeth yn ystod COVID-19 a defnydd, angen a phrofiadau o gymorth profedigaeth yn dilyn hynny. Bydd mesurau dilysedig yn asesu galar ac ymatebion ymdopi, cefnogaeth gymdeithasol, anhwylder galar hir (PGD) ac ansawdd bywyd.

Pecyn Gwaith 2:  Bydd cyfweliadau ffôn lled-strwythuredig gyda sampl o ymatebwyr ar ôl pob arolwg yn edrych ar brofiadau galar a phrofedigaeth yn ystod COVID-19, gan gynnwys cymorth profedigaeth ac anghenion na chafodd eu diwallu.

Pecyn Gwaith 3:  Bydd arolwg ar-lein o ddarparwyr gwasanaethau profedigaeth yn nodi addasiadau i wasanaethau, heriau allweddol a dulliau o ddarparu gofal profedigaeth hygyrch yn ystod y pandemig. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn llywio astudiaethau achos wedi'u targedu, a ddatblygwyd drwy gyfweliadau ffôn, i ddisgrifio arfer arloesol. Bydd yr astudiaeth yn nodi goblygiadau 'amser real' ar gyfer darparu gofal diwedd oes a chymorth profedigaeth
yn ystod a thu hwnt i'r pandemig ac yn sicrhau trosi prydlon i ymarfer.

Nodau

Nod yr astudiaeth yw ymchwilio i brofiadau galar, anghenion cymorth a'r defnydd o gymorth profedigaeth gan bobl a gafodd brofedigaeth yn ystod y pandemig, a'r addasiadau, yr heriau a'r arloesedd sy'n gysylltiedig â darparu cymorth profedigaeth teg.

Dyma'r amcanion penodol:

  • Edrych ar sut mae marwolaeth a materion cymdeithasol sy'n benodol i'r pandemig, megis diffyg cyswllt, aflonyddu defodau galaru, ynysu a cholli swyddi'n effeithio ar brofiadau galar pobl a gafodd brofedigaeth yn ystod y pandemig, a'r amrywiadau ar draws grwpiau demograffig.
  • Nodi'r mathau o gefnogaeth y mae'r galarwyr wedi'i chael, sut maen nhw wedi cael y cymorth hwn a'r rhwystrau posibl ato, gan gynnwys amrywiadau ar draws grwpiau demograffig.
  • Pennu ac ystyried defnyddioldeb canfyddedig y gwahanol fathau o gymorth ac unrhyw anghenion na chafodd eu diwallu.
  • Pennu ffactorau sy'n gysylltiedig ag ymatebion galar dros amser, gan gynnwys arwyddion o anhwylder galar hir.
  • Ystyried y berthynas rhwng amseru a'r math o gymorth a gafwyd, effaith economaidd, defnyddioldeb canfyddedig y gefnogaeth ac ymatebion galar.
  • Nodi addasiadau i'r gwasanaeth, heriau allweddol a dulliau o ddarparu gofal profedigaeth hygyrch ymhlith y gwasanaethau profedigaeth, ac edrych yn fanwl ar arfer arloesol.
  • Nodi ac adrodd ar oblygiadau amser real ar gyfer gwella gofal diwedd oes a phrofedigaeth yn ystod y pandemig.

Cynnydd

  • Aeth cylch cyntaf yr arolwg yn fyw ddiwedd mis Awst 2020 a daeth i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2020, gyda 747 o gyfranogwyr (ffigurau wedi'u sgrinio ymlaen llaw).
  • Cytunodd 77% o ymatebwyr y cylch cyntaf i dderbyn ail gylch yr arolwg (ar bwynt amser saith mis) a dechreuodd y rhain ar 19 Tachwedd 2020.
  • Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf o ganlyniadau interim ar wefan y prosiect ar 27 Tachwedd 2020.

Cymeradwyaeth Moeseg

Pwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd SMREC 20/59.

Rhwydweithiau Ymchwil

Lledaenu trwy rwydweithiau a sefydliadau profedigaeth gan gynnwys partneriaid prosiect: The National Bereavement Alliance, Marie Curie, CRUSE Bereavement Care, The Good Grief Trust.

Gwybodaeth

Prif ymchwilwyrDr Emily Harrop
Dr Lucy Selman (Grŵp Ymchwil Gofal Lliniarol a Diwedd Oes)
AriannwrY Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
Cyswlltharrope@caerdydd.ac.uk
BeCOVID Logos