Canolfan Ymchwil Marie Curie
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ac ymgymryd ag ymchwil o safon fydd yn gwella gofal a phrofiad cleifion a'u gofalwyr yn uniongyrchol pan fydd yr afiechyd wedi datblygu'n ddifrifol.
Ein huchelgais yw parhau i fod ar flaen y gad o ran ymchwil ym maes gofal lliniarol.
Mae ein portffolio ymchwil yn cwmpasu tair thema: adsefydlu, profiad y claf a thrombosis.
Drwy rannu eu profiadau personol gyda ni, mae aelodau'r cyhoedd yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion a phryderon pobl.
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.