Ewch i’r prif gynnwys

CReSt: strategaeth ymchwil canser i Gymru

Wedi'i lansio yn 2022 gan Ganolfan, Ymchwil Canser Cymru, CReSt yw'r strategaeth ymchwil canser genedlaethol gyntaf i Gymru.

Mae'n amlinellu'r egwyddorion allweddol, seilwaith cyfredol, materion ac ymchwil â blaenoriaeth ar gyfer ymchwil canser nawr ac yn y dyfodol. Bydd CReSt yn cydlynu ac yn cysylltu pobl o bob rhan o'r gymuned ymchwil canser a bydd yn gweithio tuag at adeiladu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o bolisïau canser a gwasanaethau iechyd a gofal.

Canolbwyntiau allweddol fydd meysydd ymchwil lle mae hanes eisoes o gydweithio, rhagoriaeth, a buddsoddiad cynaliadwy i'r gweithlu.

Dyma nodau'r strategaeth

1. Datblygu cymuned ymchwil gydweithredol, effeithlon, â ffocws a chefnogaeth dda.
2. Cynyddu incwm grant ymchwil o bob ffynhonnell i ehangu'r sylfaen ymchwil.
3. Gwella rhwystradau, diagnosis a thriniaeth ar gyfer pob claf sydd â chanser.