Ewch i’r prif gynnwys

PaCERS

Rydym wedi cyflwyno Gwasanaeth Adolygu Tystiolaeth Gofal Lliniarol (PaCERS), a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i'ch helpu i gysylltu ymarfer clinigol yn agosach â thystiolaeth, ac wrth wneud hynny wneud gwahaniaeth i gleifion.

Ein nod yw cynnal adolygiadau cyflym i ateb cwestiynau ymchwil sydd o bwys i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac eraill sy'n gwneud penderfyniadau, mewn perthynas â gofal lliniarol, yn yr amser byrraf posibl (7-10 wythnos). Caiff yr holl adolygiadau cyflym eu cynnal gan ddefnyddio dulliau adolygu systematig diwygiedig, gyda chwestiwn ymchwil wedi'i fireinio i raddau helaeth.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi clinigwyr a rhai eraill sy'n gwneud penderfyniadau drwy gyfuno tystiolaeth ymchwil â datblygu gwasanaeth ac ymarfer. Mae'r gwasanaeth yn unigryw gan ei fod yn ymateb i alwadau clinigol neu sefydliadol allanol am dystiolaeth, yn hytrach na diffinio'r agenda adolygu.

Gellir gweld adolygiadau cyflym ar wefan Canolfan Ymchwil Canser Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Gwasanaeth Adolygu Tystiolaeth Gofal Lliniarol (PaCERS)