Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth dilysu CAG

Dilysu’r Raddfa Agwedd Plant at Alar ar gyfer ymchwil ac ymarfer clinigol gyda phlant a phobl ifanc mewn profedigaeth

Disgrifiad byr

Mae’r Raddfa Agwedd Plant at Alar (CAG) wedi'i haddasu o'r Raddfa Agwedd Oedolion at Alar (Sim et al 2014). Mae'r raddfa yn cynnwys naw eitem/cwestiwn sy'n archwilio sut mae plentyn neu berson ifanc mewn profedigaeth yn ymateb i'w alar ac yn ymdopi ag ef.

Ar hyn o bryd mae'r raddfa CAG yn cael ei defnyddio gyda phlant saith oed a hŷn gan nifer fach o wasanaethau profedigaeth plant a hosbis, gan gynnwys Winston's Wish. Bydd y prosiect hwn yn dilysu'r mesur mewn dau gam i helpu i ddatblygu a phenderfynu ar ei addasrwydd i'w ddefnyddio mewn ymarfer clinigol ac fel offeryn ymchwil a gwerthuso gyda phlant a phobl ifanc mewn profedigaeth.

Cefndir

Mae'r angen am arferion asesu a sgrinio ffurfiol i benderfynu ar angen a darparu cymorth priodol wedi'i hen sefydlu mewn polisi ac ymarfer profedigaeth. Mae amrywiaeth eang o offer ar gael i asesu anghenion oedolion o ran cymorth galar a phrofedigaeth. Mae angen mesurau penodol i blant hefyd; ochr yn ochr â gwahaniaethau mewn galluoedd iaith, perthnasoedd a chyd-destunau bywyd sylweddol (e.e. systemau rhieni, ysgolion/addysg), cydnabyddir bod ymatebion galar hefyd yn amrywio ar draws y rhychwant oes, gan y gall ystyr colled amrywio yn seiliedig ar oedran a datblygiad (Kaplow et al., 2014).

‘r Raddfa Agwedd Plant at Alar (CAG) wedi'i haddasu o'r Raddfa Agwedd Oedolion at Alar (Sim et al 2014). Fel y fersiwn gwreiddiol ar gyfer oedolion, mae'r raddfa yn seiliedig ar y model Ystod Ymateb i Golled (Machin 2001), sy'n nodi dau ddimensiwn gwahanol galar: yn gyntaf, sbectrwm o ymatebion greddfol i golled, o rywun yn cael ei 'lethu', cyflwr sy'n cael ei ddominyddu gan drallod emosiynol/gwybyddol, i’w 'reoli', sef angen osgoi mynegi emosiynol a symud y ffocws oddi ar y golled; yn ail, ceir ymatebion ymdopi ymwybodol lle mae 'gwydnwch', neu ddiffyg gwydnwch (bregusrwydd), yn dangos y nodwedd o ymdopi'n effeithiol. Ar hyn o bryd, mae'r raddfa yn cael ei defnyddio'n glinigol gyda phlant 7 oed a hŷn, gan nifer fach o wasanaethau profedigaeth plant a hosbis. Fodd bynnag, er yr ystyrir bod y mesur yn gweithio'n dda fel offeryn clinigol, nid yw wedi cael unrhyw ddilysiad gwyddonol ffurfiol eto. I fynd i’r afael â’r angen hwn, bydd y prosiect hwn yn dilysu'r mesur mewn dau gam, i helpu i ddatblygu a phennu ei addasrwydd i'w ddefnyddio mewn ymarfer clinigol ac fel offeryn ymchwil a gwerthuso gyda phlant a phobl ifanc mewn profedigaeth.

Nodau

Mireinio a gwerthuso'r Raddfa Agwedd Plant at Alar i bennu ei addasrwydd i'w ddefnyddio mewn ymarfer clinigol, gwerthuso ac fel offeryn ymchwil.

Cam un:
Asesu (ac os oes angen) gwella dilysrwydd golwg a chynnwys graddfa CAG, gan ddefnyddio grwpiau ffocws â rhanddeiliaid a chyfweliadau gwybyddol gyda defnyddwyr gwasanaethau.

Cam Dau:
Profi’r holiadur yn y maes gyda defnyddwyr gwasanaethau i ganfod ei ddilysrwydd o ran lluniad, ei ddilysrwydd strwythurol, cysondeb mewnol, dibynadwyedd (profi-ailbrofi), anghyfnewidioldeb mesur, gwallau mesur ac ymatebolrwydd.

Cynnydd

Dechreuodd yr astudiaeth ym mis Mawrth 2023. Rhagwelir y bydd casglu data yn dechrau ym mis Hydref 2023.

Cyfeirnodau

Sim, J., Machin, L. a Bartlam, B., 2014. Identifying vulnerability in grief: psychometric properties of the Adult Attitude to Grief Scale. Quality of Life Research, 23, tt1211-1220.

Kaplow JB, Saunders J, Angold A, Costello EJ. Psychiatric symptoms in bereaved versus nonbereaved youth and young adults: a longitudinal epidemiological study. Journal of the American Academy of Child & Adolescent Psychiatry. 2010 Nov 1;49(11):1145-54.

Machin, L. (2001). Exploring a framework for understanding the range of response to loss; a study of clients receiving bereavement counselling. Traethawd ymchwil PhD heb ei gyhoeddi. Prifysgol Keele, DU.

Prif ymchwilyddDr Emily Harrop
Ymholiadau cyffredinol

Dr Noreen Hopewell-Kelly
Hopewell-KellyN2@cardiff.ac.uk

CyllidwrGrant i Winston's Wish gan elusen dyngarol.
Dyddiad dechrau15 Mawrth 2023
Dyddiad gorffen15 Mawrth 2025
StatwsYn mynd rhagddo
Cymeradwyaeth MoesegPwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd SMREC 23/48.