Ewch i’r prif gynnwys

CHRONOS

CHRONOS -logo

Rydym ni'n cynnal yr elfen ansoddol a chyfweliadau hydredol gyda chleifion a chlinigwyr sy'n cymryd rhan yn nhreial CHRONOS.

Cefndir

Mae'r treial hwn yn cymharu triniaeth i'r prostad cyfan gyda thriniaeth i'r rhannau o'r prostad sydd â chanser yn unig.

Gellir neilltuo cleifion i un o ddwy ran treial CHRONOS - CHRONOS A neu CHRONOS B. Yna cânt eu dewis ar hap i dderbyn therapi penodol:.

CHRONOS ACHRONOS A - therapi ffocal yn unig (Uwchsain Ffocws Dwysedd Uchel (HIFU) neu Gryotherapi) - neu therapi radical (tynnu'r brostad drwy lawdriniaeth, radiotherapi neu fracitherapi).
CHRONOS BCHRONOS B - therapi ffocal yn unig neu therapi ffocal wedi'i gyfuno ag asiantau neo-gynorthwyol a/neu gynorthwyol h.y. triniaeth hormon (Finasteride neu Bicalutamide).

Gwahoddir cleifion sy'n cyfranogi neu sy'n gwrthod cyfranogi yn y treial i gymryd rhan yn yr elfen ansoddol.

Nod

Archwilio profiadau cleifion o driniaethau yn cynnwys sgil-effeithiau a'u hansawdd bywyd, hefyd safbwyntiau cleifion a chlinigwyr o recriwtio i'r treial.

Effaith

Caiff canlyniadau'r cyfweliadau ansoddol eu bwydo'n ôl i'r prif dreial mewn amser real.

Pwy all gymryd rhan

Efallai y gallech ymuno â'r treial os ydych yn gymwys i'r astudiaeth CHRONOS.

Pwy na chaiff gymryd rhan

Ni chewch ymuno â'r treial hwn os ydych chi eisoes wedi cael triniaeth am ganser prostad.

Noddir yr astudiaeth gan Goleg Imperial Llundain.

Gwybodaeth

Prif YmchwilyddYr Athro Hashim U Ahmed
Arweinydd AnsoddolYr Athro Annmarie Nelson
Cyswllt yr Astudiaeth AnsoddolDr Mirella Longo
CyllidwrProstate Cancer UK
Dyddiad dechrau11 Rhagfyr 2019
Dyddiad gorffen30 Medi 2021
StatwsMae CHRONOS A a'r elfen ansoddol ar agor