Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Drosi

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Image of the Translational Research Hub
Translational Research Hub

Mae ein cyfleuster o'r radd flaenaf ar agor i fusnes ar Gampws Arloesedd gwerth £300 miliwn Prifysgol Caerdydd.

Mae'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) wedi adeiladu llinell greu 8-modfedd o'r radd flaenaf gerllaw'r Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH).

Mae’n rhan o Gampws Arloesedd newydd gwerth £300 miliwn Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cyfuno ymchwil flaengar, trosglwyddo technoleg, gwaith datblygu busnes a menter myfyrwyr.

Mae'r ICS wedi sicrhau buddsoddiad o dros £80 miliwn ar gyfer adeilad a chyfarpar newydd, gan gynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yn allanol. Yn ogystal â’r ystafell lân, a fydd yn 1500 metr sgwâr, bydd mannau nodweddu ac ôl-brosesu pwrpasol, a fydd yn ein galluogi i gynnal gwaith cynhyrchu wafferi CS hyd at 8 modfedd mewn diamedr, o’r dechau i’r diwedd, o dan yr un to, ac i ehangu ein hystod o wasanaethau sy’n cyrraedd safon y diwydiant.

Yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (THR) ceir swyddfeydd newydd, mannau gweithio rhyngweithiol, labordai a mannau ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach, y cyfan yn llefydd a rennir. Gan alluogi rhagor o gydweithio rhwng ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, mae TRH yn amgylchedd gwaith sy'n denu ac yn cadw'r unigolion mwyaf talentog.

Mae’r Sefydliad yn rhannu'r Campws Arloesedd â Sefydliad Catalysis Caerdydd, ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, canolfan greadigol ar gyfer busnesau newydd. Mae gan y Sefydliad fynediad at gyfleusterau y mae’n ei rannu â’i gymdogion, sy’n cynnwys awditoriwm ar gyfer digwyddiadau yn arddull TEDx a labordy creu i dreialu technolegau gweithgynhyrchu newydd. Mae ein cyfleusterau'n adeiladu ar gryfderau'r Brifysgol wrth ddatblygu dyfeisiau a deunyddiau lled-ddargludyddion, gan ein gwneud yn ganolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer technolegau CS.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau, cysylltwch â:

Stephen Sutton

Stephen Sutton

Business Development Manager

Email
suttons1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0548