Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ymgysylltu â'r ICS a manteisio ar ein hoffer a'n cyfleusterau ystafell lân o'r radd flaenaf. Gyda'n gilydd, gallwn ddod o hyd i'r datrysiad cywir i chi.

Bydd hyd a chost yn dibynnu ar y math o waith a lefel yr arbenigedd sydd ei angen.

Ymchwil gydweithredol

ICS process engineers working in the cleanroom.
ICS process engineers working in the cleanroom.

Gall un neu fwy o bartïon gytuno, ymlaen llaw, i gynnal rhaglen ymchwil sy'n ymwneud â mater neu her dechnegol benodol.

Unwaith y bydd wedi sefydlu, bydd pob parti'n llofnodi cytundeb cydweithio yn ymwneud â chwmpas technegol y gwaith, y cyfraniadau disgwyliedig a'r rhaniad y cytunir arno ar gyfer yr allbynnau; gall y berthynas hon fod yn fuddiol iawn i bob ochr. Gall un parti neu nifer o bartïon dalu costau llawn y prosiect. Mae'n bosibl diogelu data sy'n fasnachol sensitif drwy'r cytundeb cydweithio.

Dylai hyn fod ar gyfer ymchwil archwiliol sy'n cynhyrchu gwybodaeth newydd am ddeunyddiau, dyfeisiau neu brosesau. Gall hyn arwain at ganfyddiadau arloesol yn ogystal â buddion ymarferol i'ch sefydliad.

Innovate UK

Mae Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn cyhoeddi galwadau cystadleuol bob blwyddyn yn canolbwyntio ar themâu amrywiol ar gyfer cydweithio academaidd dan arweiniad diwydiant. Rhaid i bob cynnig ganolbwyntio ar fusnes.

Mae gan yr ICS hanes o gydweithio llwyddiannus e.e. He-Man, Kairos, o'r math hwn ac mae'n croesawu cyfleoedd i gydweithio â phartneriaid diwydiannol gan ddefnyddio'r mecanwaith hwn.

Llywodraeth Cymru

Dan ymbarél cyfres rhaglenni SMART, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i fusnesau a sefydliadau ymchwil yng Nghymru fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygir drwy brosesau ymchwil, datblygu ac arlosedd. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys:

  • Nod Arloesedd SMART yw cynyddu ymwybyddiaeth a gallu busnesau Cymru o ran arloesedd
  • Nod Arbenigedd SMART yw cynyddu masnacheiddio Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd mewn sefydliadau ymchwil drwy gydweithio gyda diwydiant
  • Nod SMART Cymru yw darparu cymorth ariannol i fusnesau Cymru allu tyfu eu buddsoddiad mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd.

Ymchwil a ariennir yn allanol

Gallai cyllid fod ar gael gan Gynghorau Ymchwil fel EPSRC ar gyfer pynciau'n ymwneud â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae'r EPSRC yn cynnal rhestr o Alwadau Agored. Er y dylai'r prosiectau hyn fod dan arweiniad y sefydliad academaidd mae cyfranogiad partneriaid diwydiannol yn bwysig i sicrhau llwyddiant.

O bryd i'w gilydd, gall cyrff cyllido fel Horizon 2020, cymdeithasau dysgedig fel yr Academi Frenhinol neu'r Gymdeithas Frenhinol, gyhoeddi galwadau cystadleuol ar themâu sy'n ddelfrydol ar gyfer cydweithio academaidd a diwydiannol yn y maes hwn.

Cyfnewid Gwybodaeth

Mae'r rhaglenni hyn yn darparu mynediad at staff ymchwil i'ch helpu gydag arloesi gyda chynnyrch a datblygu prosesau.  Rydym ni'n cefnogi amrywiaeth eang o raglenni cyfnewid gwybodaeth. Gallai rhai ohonynt fod â chyllid neu gymorth arall:

Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2)

Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes diamheuol o weithio'n llwyddiannus gyda chwmnïau o bob maint ar dros 60 KTP, neu'r TCSs blaenorol, dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Mae'r rhain yn brosiectau cydweithredol sy'n cynnwys y Brifysgol, eich sefydliad, a  rhywun sydd wedi graddio'n ddiweddar a leolir gyda chi i weithio ar bwnc a bennir gan anghenion eich sefydliad.

Gallwn gydweithio'n agos gyda chi i ddatblygu'r prosiect hwn ac ymgeisio am y cyllid priodol.

Nawdd PhD

Gallwch ariannu myfyriwr PhD am bedair blynedd i weithio ar bwnc ymchwil penodol y cytunir arno gan y ddwy ochr, sy'n darparu cyswllt amser llawn a chanlyniadau manwl. Gellir hwyluso hyn drwy ein Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn elwa o oruchwyliaeth gan aelod o staff academaidd naill ai o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth neu'r Ysgol Peirianneg. Bydd gan y myfyrwyr radd eisoes a gellir eu dewis o unrhyw le yn y byd ar sail anghenion y prosiect.

Ymchwil Contract

Mae hyn yn golygu y gallwch fanteisio ar sail fasnachol ar ein sgiliau ystafell lân a'n harbenigedd gyda chynllun prosiect y cytunir arno ymlaen llaw. Gall y gwaith gynnwys dadansoddiad lefel uchel o ganlyniadau profion ac mae'n ddefnyddiol os yw cyllid allanol yn annhebygol, lle nad oes gwybodaeth newydd yn cael ei chynhyrchu, lle mae amser yn dynn a/neu lle mae eiddo deallusol neu gyfrinachedd yn bwysig.