Cyfleusterau
Mae ein hoffer a’n cyfleusterau modern o’r radd flaenaf yn galluogi ymchwilwyr a diwydiant i gydweithio.
Mae'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn darparu cyfleusterau llawn a rennir sy'n berthnasol yn ddiwydiannol i alluogi ymchwilwyr a diwydiant i fodloni gofynion ymchwil gwneud y defnydd mwyaf o’r hyn sydd ar gael.
Ystafell lân wedi'i hadnewyddu
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ystafell lân 225 metr sgwâr sy’n bodoli eisoes yn Adeiladau’r Frenhines Prifysgol Caerdydd. Mae’n adeilad rhestredig gradd II sydd hefyd yn gartref i Ysgolion Ffiseg a Seryddiaeth a Pheirianneg y Brifysgol.
Yn ystod 2017, gwariwyd £600,000 ar adnewyddu ystafell lân Adeiladau'r Frenhines i wella cyflwr yr ystafell a darparu gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer gosod offer newydd. Roedd y rhaglen yn cynnwys uwchraddio:
- dulliau rheoli tymheredd a lleithder
- cyflenwad aer sych cywasgedig
- gwactod
- cyflenwad nitrogen hylifol
- tynnu a sgwrio nwyon prosesu
- tynnu osôn
- cyflenwadau pŵer trydan.
Yn ogystal ag uwchraddio'r ystafell lân, mae ICS, gyda chymorth Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a Llywodraeth Cymru drwy Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, wedi buddsoddi mewn offer newydd i gyflwyno adnoddau i greu ardal fach i 6” ar-lein. Mae’r offer a brynwyd yn cynnwys
- SYSTEM ADNEUO FFILM DENAU ™ Lesker PRO Line™ PVD 200™
- SYSTEM ADNEUO FFILM DENAU Lesker PRO Line™ PVD 200™ gyda chlo llwyth UHV
- Anweddydd Dielecric Buhler Boxer
- Ffwrnais Ocsidiad Gwlyb AET (AlOx).
- Oxford Instruments PlasmaPro 100 Cobra 300 Teclyn Plasma Etch
- Prosesydd RTP Jipelec JetFirst 300
- Plasma Etch Inc. PE-100 Plasma Asher
- Aliniwr Mwgwd SÜSS MicroTec MA6
- System Uwch Bruker DektakXT (DXT-A)
- System Dyddodiad Haen Atomig (ALD) Beneq TFS 200
- System Dyddodiad Haen Atomig (ALD) Beneq TFS 200.
Cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu
Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu llinell greu 8 modfedd o’r radd flaenaf a fydd yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) newydd, lle byddwn yn symud i gyfleuster ystafell lân newydd a adeiladwyd yn bwrpasol.
Mae’n rhan o Gampws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd, gwerth £300 miliwn, fydd yn cyfuno ymchwil flaengar, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a menter myfyrwyr.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau, cysylltwch â: