Ewch i’r prif gynnwys

Prydeinwyr cynhanesyddol yn casglu milltiroedd bwyd i wledda ger Côr y Cewridda ger Côr y Cewri

13 Mawrth 2019

Stonehenge

Mae archeolegwyr wedi darganfod tystiolaeth o’r dathliadau cynharaf ar raddfa fawr ym Mhrydain – gyda phobl ac anifeiliaid yn teithio cannoedd o filltiroedd am ddefodau gwledda cynhanesyddol.

Cafodd y gwaith ei arwain gan Dr Richard Madgwick o Brifysgol Caerdydd, a dyma’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr hyd heddiw. Archwiliwyd esgyrn 131 o foch, sef y prif anifeiliaid gwledda, o bedwar adeiledd o Ddiwedd y Cyfnod Neolithig ym Mhrydain (c. 2800-2400CC). Bu’r pedwar safle - Durrington Walls, Marden, Mount Pleasant a West Kennet Palisade Enclosures - sy’n gwasanaethu cofadeiladau byd-enwog Côr y Cewri ac Avebury, yn cynnal y digwyddiadau cyntaf; gwleddoedd a oedd yn denu pobl ac anifeiliaid o ledled Prydain.

Pig bone
Pig bones excavated from Durrington Wales Image credit: Dr Richard Madgwick

Mae’r canlyniadau yn dangos bod yr esgyrn moch a gloddiwyd o’r safleoedd hyn yn anifeiliaid a gafodd eu magu mor bell i ffwrdd â’r Alban, de ddwyrain Lloegr a gorllewin Cymru, yn ogystal â nifer o leoliadau eraill ar draws yr Ynysoedd Prydain. Mae’r ymchwilwyr yn credu efallai y byddai wedi bod yn bwysig i’r rhai a oedd yn bresennol i gyfrannu anifeiliaid a fagwyd yn lleol yn eu cartrefi.

Cyn hyn, mae tarddiad y bobl oedd yn cymryd rhan yn nefodau’r cofadeiladau megalithig hyn, a hyd a lled symud y boblogaeth ar y pryd, wedi bod yn ddirgelwch hirsefydlog yng nghynhanes Prydain.

Dywedodd Dr Richard Madgwick, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Mae’r astudiaeth hon yn dangos graddfa’r symud a lefel y cymhlethdod cymdeithasol na chafodd ei werthfawrogi o’r blaen.”

Richard Madgwick

Gellir ystyried y digwyddiad hwn fel y cyntaf o ddigwyddiadau diwylliannol unedig ein hynys, gyda phobl o bob cwr o Brydain yn dod i’r ardaloedd o amgylch Côr y Cewri i wledda ar fwydydd sydd wedi’u magu a’u cludo yn arbennig o’u cartrefi.

Dr Richard Madgwick, British Academy Post-Doctoral Research Fellow

Bu adeileddau meingylchoedd Neolithig de Prydain, sy’n cynrychioli campau mawr peirianneg a symudiad llafur, yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau mawr y trydydd mileniwm CC. Moch oedd y prif anifail a ddefnyddiwyd wrth wledda a dyma’r dynodiad gorau o ran ble y tarddodd y bobl a ddaeth i wledda yn y safleoedd hyn gan nad oes bron dim olion dynol wedi cael eu darganfod.

Gan ddefnyddio dadansoddiad isotop, sy’n nodi signalau cemegol o’r bwyd a’r dŵr a lyncwyd gan anifeiliaid, roedd yn bosibl i’r ymchwilwyr leoli’r ardaloedd daearyddol lle cafodd y moch eu magu. Mae’r astudiaeth yn cynnig y darlun cliriaf eto o raddfa’r symud ar draws Prydain adeg Côr y Cewri.

Dywedodd Dr Madgwick: “Gellir dadlau mai’r canfyddiad mwyaf syfrdanol yw ymdrechion y rhai a oedd yn cymryd rhan i gyfrannu moch a fagwyd ganddynt. Byddai cael gafael ar foch yng nghyffiniau’r wledd wedi bod yn gymharol hawdd.

“Nid yw moch hanner mor addas â gwartheg i gael eu symud yn bell, a byddai eu cludo, ar ôl eu lladd neu ar droed, dros ddegau neu hyd yn oed cannoedd o gilometrau, wedi bod yn ymdrech aruthrol.

“Mae hyn yn awgrymu y bu gofyn am gyfraniadau penodedig a bod rheolau yn nodi bod rhaid i’r moch a gynigiwyd fod wedi’u magu gan y rhai oedd yn dod i’r wledd a’u bod yn dod gyda nhw ar y daith, yn hytrach na chael eu casglu’n lleol.”

Richard Madgwick
Weighing collagen from Neolithic pigs for isotope analysis

Cynhaliodd Dr Madgwick yr ymchwil ar y cyd â chydweithwyr o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd, ynghyd â gwyddonwyr o Labordy Geowyddorau Isotopau NERC, Prifysgol Sheffield a Choleg Prifysgol Llundain. Ariannwyd y prosiect gan yr Academi Brydeinig yn rhan o gymrodoriaeth ôl-ddoethurol a gafodd ei gefnogi gan grant Pwyllgor Llywio Cyfleuster Geowyddorau Isotopau NERC.

Mae’r astudiaeth, ‘Multi-isotope analysis reveals that feasts in the Stonehenge environs and across Wessex drew people and animals from throughout Britain’, a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig a NERC, yn cael ei chyhoeddi yn Science Advances.

https://youtu.be/V0TwsskuskQ

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.