Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Llygredd plastig yn arnofio ar wyneb afon

Mae gwyddonwyr wedi datblygu dull newydd sy’n meintioli plastigau 'anweledig' mewn afonydd

9 Mai 2024

Mae’n bosibl y bydd y dull yn rhoi darlun mwy realistig o lygredd plastigau ac yn arwain at strategaethau glanhau sy’n defnyddio gwybodaeth yn well

Chwalu rhwystrau amgylcheddol drwy waith celf

8 Mai 2024

Bu i’r gymuned noddfa leol, sy’n cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gydweithio ag academyddion yn ein hysgol ac artistiaid lleol i godi ymwybyddiaeth o’r materion amgylcheddol mwyaf dybryd sy’n ein wynebu.

Cynhadledd sero net yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr

26 Ebrill 2024

Yn ddiweddar, dysgodd myfyrwyr ar ein MSc Peirianneg Sero Net am ymchwil bwysig yn y maes mewn Cynhadledd Sero Net ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfaoedd yn Birmingham.

Gwella bioamrywiaeth yng ngerddi Trevithick: menter gymunedol

25 Mawrth 2024

Mae gerddi Trevithick ar dir yr Ysgol wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt lleol, diolch i ymdrechion ein technegwyr peirianneg a’n gwirfoddolwyr brwdfrydig.

Tri ffotograff o Gymrodyr Turing Prifysgol Caerdydd – yr Athro Monjur Mourshed, Dr Jenny Kidd a’r Athro Steven Schockaert (o’r chwith i’r dde)

Prifysgol Caerdydd yn sicrhau tair Cymrodoriaeth Turing

21 Mawrth 2024

Ymchwilwyr yn ymuno â charfan newydd i helpu i dyfu ecosystem gwyddor data a deallusrwydd artiffisial y DU

Menyw ifanc yn chwerthin wrth ddefnyddio offer labordy

Prifysgol Caerdydd yn derbyn cyfran o fuddsoddiad gwerth £1 biliwn mewn hyfforddiant doethurol

14 Mawrth 2024

Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain un o’r canolfannau hyfforddiant doethurol gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd

Mae clinigydd yn edrych ar ddata MRI ar sgrîn cyfrifiadur

Creu hidlyddion ar gyfer delweddau meddygol y dyfodol

7 Chwefror 2024

Mae ymchwilwyr yn datblygu cyfres o safonau i wella dibynadwyedd a dilysrwydd data a dynnir o ddelweddau meddygol

1af yn y DU ar gyfer peirianneg drydanol ac electronig The Guardian University Guide 2024

8 Ionawr 2024

Mae Prifysgol Caerdydd ar y blaen yn nhablau’r DU am Beirianneg Drydanol ac Electronig (EEE) yn Guardian University Guide 2024.

Yr Ysgol Peirianneg yn sicrhau o gyllid i wneud ymchwil ar y cyd i’r broses cywasgu hydrogen yn y system drawsyrru genedlaethol

13 Rhagfyr 2023

Mae’r Ysgol Peirianneg yn falch o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau grant gan Gronfa Arloesedd Strategol Ofgem i gynnal prosiect ymchwil arloesol gwerth £43.7 miliwn ym maes rhwydweithiau nwy hydrogen.

Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn rheoli offer y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn labordai Canolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd.

Prifysgol Caerdydd ac IQE yn cyhoeddi eu bod wedi ymestyn eu partneriaeth strategol

11 Rhagfyr 2023

Bydd y cytundeb newydd yn buddsoddi mewn talent ac yn datblygu ymchwil ar ffyrdd newydd o ddatblygu’r rhain