Ewch i’r prif gynnwys

Gwella bioamrywiaeth yng ngerddi Trevithick: menter gymunedol

25 Mawrth 2024

Mae gerddi Trevithick ar dir yr Ysgol wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt lleol, diolch i ymdrechion ein technegwyr peirianneg a’n gwirfoddolwyr brwdfrydig.

Yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd, daeth aelodau o’r staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned ynghyd i greu amgylchedd sy’n addas i gefnogi byd natur. Ymhlith rhai o’r prosiectau roedd:

  1. Gweithdy adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt – Bu’r technegwyr peirianneg Mr Steve Mead, Ms Amy Parnell a Mr Sam Moeller yn goruchwylio gweithdy ar 6 Mawrth gydag wyth o wirfoddolwyr i saernïo cartrefi i fywyd gwyllt.
  2. Prosiect adfer mainc – Ar 7 Mawrth, bu’r technegydd peirianneg Mr Steven Rankmore yn gweithio gyda phedwar gwirfoddolwr i adfer hen fainc bren yng ngerddi Trevithick. Roedd y tasgau'n cynnwys sandio a farneisio.
  3. Menter llys, llestr a lle – Ar 7 Mawrth, galwodd y fenter gymunedol hon ar unigolion i roi unrhyw blanhigion neu botiau ar gyfer y tu allan i fywiogi gerddi Trevithick. Aeth y staff a’r myfyrwyr ati i blannu a gosod y gwyrddni o amgylch gerddi Trevithick.
  4. Creu cynefinoedd bywyd gwyllt – Gan barhau â'r ymrwymiad i fioamrywiaeth, trefnwyd digwyddiad arbennig ar gyfer 9 Mawrth. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr i helpu i osod tai adar, gwestai pryfed, cartrefi i ddraenogod a gorsaf ddŵr, gan drawsnewid gerddi Trevithick yn lloches i fywyd gwyllt lleol.

Mae'n rhyfeddol gweld gwaith mor wych yn cael ei wneud yng ngerddi Trevithick. Mae cyfranogiad ac ymroddiad pawb yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd wedi bod yn rhagorol. Mae trawsnewidiad y gerddi’n dangos ymrwymiad yr Ysgol i gynaliadwyedd a chydweithio.
Yr Athro Jianzhong Wu Professor

Rhannu’r stori hon