Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd sero net yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr

26 Ebrill 2024

Myfyrwyr MSc Peirianneg Net Zero (o'r chwith i'r dde) Cameron Carter, Louis Ringrose, James Middleton, Alec Hammond a Harry Lovell yn y Gynhadledd Sero Net ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfaoedd.

Yn ddiweddar, dysgodd myfyrwyr ar ein MSc Peirianneg Sero Net am ymchwil bwysig yn y maes mewn Cynhadledd Sero Net ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfaoedd yn Birmingham.

Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys peirianneg a’r agweddau economaidd a chymdeithasol ar gyflawni sero net.

Roedd y gynhadledd yn fuddiol iawn yn yr ystyr academaidd yn ogystal ag ar gyfer fy natblygiad proffesiynol personol. Tynnodd y gynhadledd sylw at ystod eang o faterion allweddol sy’n hysbys i bawb yn y diwydiant ond hefyd bynciau nad ydynt wedi’u hamlygu ond a fydd yn chwarae rhan fawr wrth i ni symud tuag at ddyfodol sero net.
Alec Hammond, myfyriwr MSc Peirianneg Sero Net

Mae ein MSc Peirianneg Sero Net yn rhaglen arloesol, sy’n addysgu’r sgiliau a’r wybodaeth seiliedig ar wyddoniaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt ddatrys materion datgarboneiddio yn effeithiol.

Mae ein myfyrwyr yn dysgu’n uniongyrchol gan ymarferwyr, llunwyr polisïau ac arbenigwyr yn y diwydiant am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r broses pontio i sero net. Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i’n myfyrwyr glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr o wahanol sectorau sy’n gweithio ar sero net, a chyfnewid gwybodaeth a syniadau ag ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Fe wnes i fwynhau’r gynhadledd. Roedd cwrdd ag ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfaoedd yn ddiddorol, yn enwedig clywed am eu meysydd penodol gan ein bod wedi dysgu am y rhan fwyaf o’u pynciau mewn ystyr ehangach yn ystod ein cwrs. Caniataodd i mi ddeall eu hymchwil a’r effaith y mae’n ei chael ar y diwydiant/amgylchedd.
James Middleton, myfyriwr MSc Peirianneg Sero Net

Cynhaliwyd y gynhadledd ar 27-28 Chwefror 2024 ac fe’i trefnwyd gan nifer o sefydliadau allweddol sy’n gweithio ym maes sero net gan gynnwys C-DICE, CO2RE, EDI+, EDRC, ERA, IDRIC, IGNITE+, HI-ACT, Supergen Bioenergy Hub, SUSTAIN, UKERC ac UK-HyRES. Mae ein staff academaidd yn yr Ysgol Peirianneg yn bartneriaid allweddol yn UKERC, EDRC, a HI-ACT.

Rhagor o wybodaeth am MSc Peirianneg Sero Net.

Rhannu’r stori hon