Ewch i’r prif gynnwys

Mae gwyddonwyr wedi datblygu dull newydd sy’n meintioli plastigau 'anweledig' mewn afonydd

9 Mai 2024

Llygredd plastig yn arnofio ar wyneb afon
“Mae'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn dibynnu ar gyfrif plastigau ar wyneb yr afon ac felly dyw’r rhain ddim yn cyfrif yn gywir y plastig sy'n teithio o dan y dŵr neu'n setlo ar wely'r afon.” – James Lofty

Mae tîm o wyddonwyr wedi rhybuddio bod y dulliau presennol i gyfrif llygredd plastigau mewn afonydd yn annigonol ac nad ydyn nhw’n cyfrif am y darnau sy'n suddo o dan wyneb y dŵr.

Bydd y gronynnau plastig 'anweledig' hyn ynghrog o dan y llinell ddŵr neu’n suddo i wely'r afon lle byddan nhw’n niweidio ecoleg yr afon hwyrach.

Mae'r tîm rhyngwladol, o Brifysgol Caerdydd, Sefydliad Technoleg Karlsruhe a Deltares, yn dweud bod yn rhaid mynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth hwn er mwyn pennu lefelau llygredd gwaelodlin mewn afonydd yn ogystal â llwyddiant strategaethau glanhau parhaus.

Mae eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Water Research, yn disgrifio sut mae'r plastigau anweledig hyn yn symud mewn afonydd ac yn cynnig ffordd newydd o’u cyfrif.

Dyma a ddywedodd yr awdur arweiniol James Lofty, ymchwilydd PhD yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Mae ein hastudiaeth yn gwella ein dealltwriaeth bresennol o sut a ble mae llygredd plastigau’n cael ei gludo yn ein hafonydd.

Mae'r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn dibynnu ar gyfrif plastigau ar wyneb yr afon ac felly dyw’r rhain ddim yn cyfrif yn gywir y plastig sy'n teithio o dan y dŵr neu'n setlo ar wely'r afon.
James Lofty

“Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i fesur faint yn union o blastig sydd yn ein hafonydd, pennu’r lleoedd lle bydd mwy o lygredd plastigau’n ymgronni a chyfyngu'n sylweddol ar effeithiolrwydd strategaethau glanhau.”

Gollyngodd y tîm fwy na 3,000 o eitemau llygredd plastig cyffredin, megis cwpanau polystyren a darnau eraill, i sianeli dŵr mawr, a hynny er mwyn efelychu amodau go iawn afonydd.

Gan ddefnyddio camerâu lluosog, buon nhw’n olrhain symudiadau'r samplau hyd gywirdeb y milimetr.

Mae eu dadansoddiad yn dangos y bydd plastigau sydd ar suddo ac sydd â siapiau a meintiau gwahanol yn cael eu cludo mewn ffyrdd amrywiol mewn afonydd.

Ychwanegodd Mr Lofty: “Yn ein hastudiaeth, rydyn ni’n dangos sut mae plastigau yn suddo i gyfeiriadau gwahanol. Mae hyn yn newid yn sylweddol pa mor gyflym y bydd gronyn yn suddo.

“Yn flaenorol tybid bod gan blastigau bob amser gyfeiriadedd suddo sefydlog ac felly'n suddo ar gyflymder cyson.

“Fodd bynnag, rydyn ni wedi dangos nad yw hyn yn wir yn achos plastigau sydd wedi’u hollti a’u darnio. Mae hyn yn bwysig gan fod cyfradd suddo gronyn plastig yn hollbwysig i ddeall sut caiff ei gludo. Mae'r canfyddiad hwn yn newid yn sylweddol ein dealltwriaeth o sut y bydd plastigau’n symud mewn afonydd.”

Ffotograff o sianel ddŵr â chwpanau plastig glas a llwyd
Gollyngodd y tîm 3,000 o eitemau plastig cyffredin sy’n llygru i mewn i lestrau dŵr mewn labordy a dyluniwyd sianeli i efelychu amodau go iawn mewn afonydd. Credyd y llun: Daniel Valero, Coleg Imperial Llundain

Defnyddiwyd y data hyn i addasu hafaliadau sy'n seiliedig ar ffiseg a ddatblygwyd cyn hyn at ddibenion gwaddodion ac a all ragweld faint o blastig sy'n teithio mewn afonydd hyd gywirdeb o 10%.

Dywed y tîm ei bod yn bosibl bod eu dull yn rhoi amcangyfrifon mwy cywir o gyfanswm llygredd plastigau mewn afonydd.

Dyma a ddywedodd Mr Lofty: “Ceir dulliau cyfredol sy'n gallu mesur y math hwn o lygredd plastigau gan ddefnyddio camerâu tanddwr neu sonar ond ni ellir defnyddio'r rhain yn ymarferol yn ein hafonydd.

“Gellir defnyddio ein dull mewn unrhyw afon gan ei fod yn defnyddio'r hafaliad adnabyddus iawn hwn a ddefnyddir hefyd ar gyfer gwaddodion.”

Mae'r tîm yn datblygu'r dull hwn mewn afonydd go iawn ac ar fathau gwahanol o blastig o dan nifer o amodau. Maen nhw’n bwriadu cydweithio â byd diwydiant i helpu i roi amcangyfrifon mwy realistig o lygredd plastigau mewn afonydd ac i roi arferion lliniaru effeithiol ar waith.

Dyma a ddywedodd yr Athro Catherine Wilson, un o gyd-awduron y papur o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at faint o sbwriel plastig sy'n suddo i wely'r afon ac yn teithio’n ddisylw mewn afonydd.

“Mae’n bosibl y bydd ein dull newydd, ar y cyd â'n dealltwriaeth bresennol o sut mae gwaddodion yn symud mewn afonydd, yn rhoi darlun mwy realistig o lygredd plastigau yn ein hafonydd ac, yn bwysicaf oll, yn awgrymu ble i grynhoi adnoddau strategaethau glanhau plastigau.”

Cyhoeddwyd eu papur, ‘On the vertical structure of non-buoyant plastics in turbulent transport’ yn Water Research.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.