Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi drwy'r Gyflogres

Mae Rhoi drwy'r Gyflogres yn ffordd effeithlon o ran treth o gefnogi'r achosion sy'n bwysig i chi. Mae cynllun Rhoi drwy’r Gyflogres yn eich galluogi i roddi’n rheolaidd o’ch cyflog gros i elusennau o’ch dewis, a byddwch chi’n elwa o ryddhad treth ar eich rhoddion.

Drwy gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd neu ymchwil sy’n newid bywydau drwy gynllun Rhoi drwy’r Gyflogres, bydd eich rhodd yn cael mwy o effaith ac yn costio llai ichi. Er enghraifft, byddai addewid o £10 ond yn 'costio' £8 i drethdalwyr y gyfradd safonol a dim ond £6 i drethdalwyr y gyfradd uwch. Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu.

Bydd eich tîm AD neu Gyflogres yn gallu rhoi gwybod os oes gan eich sefydliad gynllun Rhoi drwy'r Gyflogres eisoes. Os na, efallai y byddan nhw eisiau trafod hyn â chi ac ystyried asiantau Rhoi drwy'r Gyflogres megis Charitable Giving, CAF neu’r Charities Trust Mae cynllun Rhoi drwy’r Gyflogres yn ffordd wych i’ch sefydliad bodloni ei amcanion o ran cyfrifoldeb corfforaethol a dangos ei gefnogaeth i fyfyrwyr Caerdydd ac ymchwil o safon sy’n arwain y byd.

Os hoffech chi wneud rhodd i gefnogi achos gwahanol, neu os hoffech chi wybod rhagor am roddi ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni:

Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr