Ewch i’r prif gynnwys

Ansicrwydd a’r Dyfodol

Mae'r thema hon yn ceisio yw ceisio taclo ansicrwydd a’r ffyrdd y mae’n gysylltiedig â datblygu llwybrau posibl i’r dyfodol, a hynny drwy fynd i’r afael â chwestiynau allweddol a’r heriau a all godi wrth lywio ansicrwydd mewn systemau cymhleth.

Nod y thema ryngddisgyblaethol hon yw datblygu datrysiadau arloesol a’u rhoi ar waith er mwyn deall ansicrwydd a’i oblygiadau ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau.


Mae’r thema’n ymdrin â sawl maes pwnc, gan gynnwys:

  1. Technolegau digidol ar gyfer modelu a chyfathrebu ansicrwydd: datblygu a chymhwyso methodolegau i fodelu a chyfathrebu ansicrwydd yn y dyfodol, gan integreiddio gwybodaeth ansoddol a meintiol
  2. Darogan, rhagddarbodaeth, a chynllunio senarios: Datblygu a defnyddio offer er cymorth sefydliadau i wneud penderfyniadau gwell yn wyneb ansicrwydd
  3. Hanes a'r Dyfodol: Ymchwilio i sut y gellir defnyddio'r gorffennol i ddeall y dyfodol
  4. Ansicrwydd, Cyfnodau pontio, a chenedlaethau'r dyfodol: Ymchwilio i sut mae ansicrwydd yn effeithio ar cyfnodau pontio a’u goblygiadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  5. Systemau gwydn a gwrth-fregus: Ystyried sut i adeiladu systemau a all addasu a ffynnu mewn amgylcheddau ansicr
  6. Safbwyntiau Rhyngddisgyblaethol: Ymchwilio i sut mae disgyblaethau amrywiol yn cysyniadoli ac yn rhoi sylw i ansicrwydd, yn ogystal â nodi’r potensial ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol er mwyn mynd i’r afael â heriau cymhleth yn y dyfodol