Ewch i’r prif gynnwys

Cludiant

Drwy ffactorau dynol a thechnegau arbrofol ymddygiadol, rydym ni'n deall ac yn datrys problemau ymarferol y byd go iawn o ran y gweithle a chludiant.

Rydym ni hefyd yn mynd i’r afael â datgarboneiddio a chynaliadwyedd ym meysydd ffyrdd, rheilffyrdd ac awyrofod er mwyn gwireddu nodau sero net.

Cludiant cyhoeddus

Mae trawsnewid digidol y sector cludiant yn cefnogi twf economaidd cenedlaethol a byd-eang. Gallwn helpu’r sector cludiant cyhoeddus i:

  • hybu effeithlonrwydd a gwella ansawdd
  • lleihau costau
  • agor ffrydiau refeniw newydd
  • gwella profiad a theyrngarwch cwsmeriaid
  • edrych ar feysydd ymchwil newydd i gyflymu'r newidiadau hyn.

Cerbydau trydan

Mae cyflwyno cerbydau trydan yn gofyn am ddull system gyfan integredig i fynd i'r afael â heriau mewn systemau cyflenwi trydan a seilwaith gwefru.

Rydym yn dod ag arbenigedd ynghyd i drawsnewid arferion ac ymchwil gyfredol ym maes datgarboneiddio cludiant. Gallwn eich helpu gyda rhwydweithiau trydan, seilwaith gwefru cerbydau trydan, awyrennau trydan a hybrid, a thrydaneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd.