Amdanom ni
Rydym yn canolbwyntio ar atebion ar gyfer y byd go iawn, sy’n atebion perthnasol sy'n cael eu creu drwy gydweithio a phartneriaethau, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ymchwil ac iddi effaith fel bod prosesau digidol newydd yn cael eu dylunio, eu defnyddio a'u mabwysiadu mewn ffyrdd sy’n dryloyw yn gynhwysol, â diogelwch a lles yn greiddiol iddynt.
Yn ein byd modern sy'n newid yn barhaus, rydym yn gweld datblygiad cyflym prosesau digidol arloesol sy'n trawsnewid diwydiant, llywodraeth a chymdeithas sifil.
Mae datblygiadau mewn meysydd digidol yn darparu cyfleoedd cyffrous, ond maent hefyd yn cyflwyno heriau newydd - gan gynnwys seiberddiogelwch a bygythiadau preifatrwydd, yn ogystal â dylanwadau ar brosesau cymdeithasol, cyflogaeth a democratiaeth.
Mae gennym y weledigaeth o ddarparu atebion a gynhyrchir ar y cyd sy'n galluogi galluoedd newydd ac aflonyddgar drwy ddod â thechnolegau, pobl a seilweithiau digidol ynghyd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy'n cael eu datblygu a'u gweithredu'n gyfrifol, ac wedi'u cyd-greu gyda'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y datblygiadau hyn.
Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr chwarterol i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau, a mwy, gan y sefydliadau arloesi ac ymchwil.