Ewch i’r prif gynnwys

Gofal Iechyd

O fapio esblygiad genetig pandemig COVID-19 i rymuso cleifion gydag apiau a dyfeisiau y gellir eu gwisgo, mae trawsnewid digidol yn chwyldroi'r ffordd rydym ni'n meddwl am ein hiechyd.

Mae trawsnewid digidol mewn gofal iechyd yn dibynnu ar bobl yn derbyn a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Ein nod yw optimeiddio rhyngweithio dynol gyda thechnolegau aflonyddgar drwy ymdrechion i adeiladu ymddiriedaeth, hyfforddiant effeithiol, a chynllunio'r system orau bosibl.

Gallwn eich helpu i nodi'r ffactorau sy'n cyfrannu at ganlyniadau iechyd cadarnhaol a hyrwyddo mabwysiadu polisïau ac arferion iechyd effeithiol. Drwy ddeall yr ysgogiadau hyn, gallwn weithio gyda chi i lunio argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cefnogi canlyniadau iechyd gwell i unigolion a phoblogaethau.

Rydym ni'n gweithio gyda chydweithwyr mewn amrywiol ddisgyblaethau, gan gynnwys peirianwyr, biowybodegwyr, gwyddonwyr data, mathemategwyr, genetegwyr, ffisiotherapyddion, seicolegwyr, ac imiwnolegwyr.

Rydym ni'n blaenoriaethu perchnogaeth a llywodraethu data gofal iechyd. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio gyda’r GIG a phartneriaid diwydiant i sicrhau bod cleifion yn cadw perchnogaeth o’u data, a bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol ac yn dryloyw er budd cleifion. Rydym hefyd yn hyrwyddo manteision data cysylltiedig, integredig ar gyfer meddygaeth bersonol a gwell darpariaeth gwasanaeth sy'n gost-effeithiol.