Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid a'r economi

Gall trawsnewid digidol ailwampio technolegau ariannol, arian cyfred a systemau treth.

Mae trawsnewid digidol yn tarfu ar y sector cyllid. Rydym ni'n cynnal ymchwil ar drawsnewid digidol ar draws amrywiol feysydd heriol, gan gynnwys:

  • technolegau ariannol (fintech)
  • ymddygiad marchnadoedd cryptoarian
  • democrateiddio mynediad at Bitcoin
  • amrywiaeth mewn cyfrifeg a threthiant
  • system dreth decach drwy ddigideiddio.

Technoleg Ariannol

Mae sefydliadau ledled y byd yn manteisio ar ddatrysiadau technoleg ariannol syml, cyflym a diogel i lywio eu gweithrediadau ariannol. Mae technoleg ariannol wedi esblygu'n gyflym fel diwydiant, gan newid gweithrediadau ariannol, cynhyrchiant, a hyd yn oed les digidol yn y diwydiant cyllid.

Gallwn eich cefnogi gydag ymchwil ryngddisgyblaethol, a gallwn eich cysylltu ag academyddion, cwmnïau newydd, diwydiant sefydledig, a sefydliadau llywodraethol. Rydym ni'n rhan o UKFin+, rhaglen £2.5M o gyllid EPSRC sydd wedi’i chynllunio i gysylltu ymchwilwyr â’r sector gwasanaethau ariannol.