Ewch i’r prif gynnwys

Atal pydredd dannedd ymhlith plant

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Child at the dentist

Gan ganolbwyntio ar atal pydredd dannedd ymhlith plant, mae ein hymchwil yn sail i ddull Llywodraeth Cymru o wella iechyd y geg ac o sicrhau gwell gofal deintyddol ledled Cymru.

Mae pydredd dannedd ymhlith plant yn bryder iechyd mawr. Mae hyn yn arbennig o wir am blant mewn cymunedau difreintiedig, lle mae lefelau pydredd deirgwaith yn uwch nag mewn ardaloedd mwy cefnog. Mae'n un o'r prif resymau dros dderbyn plant ifanc i'r ysbyty, sef yr angen i dynnu dannedd o dan anesthesia cyffredinol.

Mae ein hymchwil yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater gan helpu i leihau lefelau pydredd dannedd ymhlith plant.

Mae gennym ddealltwriaeth drylwyr o’r hyn sy’n achosi pydredd dannedd. Serch hynny, mae angen anaesthetig cyffredinol ar 9,000 o blant i dynnu dannedd yng Nghymru bob blwyddyn. Nod yr ymchwil hon yw lleddfu'r boen a'r dioddefaint y mae llawer yn dal i'w brofi'n ddiangen, o ganlyniad i ddewisiadau dietegol gwael a pheidio â sicrhau hylendid digonol ar gyfer y geg.
Yr Athro Ivor Chestnutt Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, Cadeirydd dros dro y Bwrdd Deintyddol Clinigol

Archwilio llwyddiant Cynllun Gwên

Yn 2009, rhoddodd Llywodraeth Cymru y 'Cynllun Gwên', rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg, ar waith. Canfu ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Ivor Chestnut, ostyngiad o 12% yng nghyfraddau pydredd dannedd ymhlith plant 5 oed ers i’r cynllun gael ei lansio.

Yn yr astudiaeth cafwyd tystiolaeth hefyd sy’n dangos mai atal cynnar sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol wrth atal pydredd dannedd yn y dyfodol. Bydd plant sydd heb bydredd erbyn iddyn nhw fod yn 5 mlwydd oed yn dioddef llai o bydredd drwy gydol eu hoes.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth hon mai atal cynnar sydd fwyaf tebygol o leihau pydredd dannedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru ffocws newydd i’r Cynllun Gwên gan dargedu plant o dan bump oed.

Dad at the dentist with Dewi

Y Cynllun Gwên

Cyflwynwyd 'Y Cynllun Gwên' yn 2009, er mwyn gwella iechyd y geg ymhlith plant. Mae timau'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn rhoi cyngor i deuluoedd, yn darparu brwsys dannedd a phast dannedd fflworid, ac yn annog ymweliadau â'r deintydd.

Bob blwyddyn mae mwy na 90,000 o blant mewn 1,200 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan yng nghynllun brwsio dannedd Cynllun Gwên, sy'n cynnwys brwsio dannedd bob dydd a derbyn triniaeth farnais fflworid ddwywaith y flwyddyn.

Sêl neu Farnais?

Mae'r rhan fwyaf o bydredd dannedd ar wyneb brathu'r cilddannedd cyntaf sy'n dod i’r amlwg pan fo plentyn yn chwech oed. Er mwyn atal hyn, mae'n arfer cyffredin i ddeintyddion ddefnyddio naill ai sêl ddeintyddol neu farnais fflworid ar y dannedd cefn.

Caenau plastig yw seliau tyllau a roddir ar ddannedd i atal bwyd a bacteria rhag mynd yn sownd. O’u defnyddio unwaith, maen nhw’n para am flynyddoedd lawer. Past gludiog sy'n cynnwys lefelau uchel o fflworid sy'n cael ei baentio ar y dannedd i'w hamddiffyn ymhellach yw farnais fflworid. Mae’n rhaid i weithiwr deintyddol proffesiynol ail-osod farnais o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Cyn 2011, nid oedd unrhyw dystiolaeth bendant ynghylch pa driniaeth oedd orau o ran atal pydredd dannedd, nac o ran pa un oedd fwyaf cost-effeithiol.

Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg tystiolaeth hwn, cynhaliodd ymchwilwyr Caerdydd un o'r treialon clinigol mwyaf ym maes deintyddiaeth. Yn dwyn yr enw, treial 'Sêl neu Farnais?', dilynodd yr astudiaeth mwy na 1,000 o blant chwech oed am bedair blynedd mewn cymunedau difreintiedig yn ne Cymru. Profwyd bod farnais yr un mor effeithiol â seliau tyllau, ond roedd y gost fesul plentyn wrth ddefnyddio triniaeth farnais yn sylweddol is.

O ganlyniad i hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai farnais, yn hytrach na seliau tyllau, yn cael eu cynnig fel mater o drefn.

Mae'r arbedion ariannol a wneir yn cael eu hail-fuddsoddi yn y rhaglen Cynllun Gwên, gan gynyddu nifer y plant sy'n elwa o'r cynllun.