Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu’n rhyngwladol

Dyw ein gwaith allgymorth a chydweithio rhyngwladol erioed wedi bod yn bwysicach. Rydyn ni’n rhan o brifysgol sy’n croesawu miloedd o fyfyrwyr o fwy na 130 o wledydd ac yn gweithio mewn partneriaeth â channoedd o sefydliadau ledled y byd.

Rydyn ni’n falch o'n diwylliant cydweithredol sy’n un cyfoethog ac amrywiol yn ogystal â’n ffordd o ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni wedi creu lle ar flaen y gad yn y sector hwn wrth greu cymuned fyd-eang o wyddonwyr cyfrifiadurol drwy groesawu partneriaethau diwydiannol a phrosiectau cyfnewid rhyngwladol. Mae'r cydweithio hwn yn meithrin datblygiadau ym maes technoleg ac yn ein helpu a'r rheini rydyn ni'n gweithio gyda nhw i fynd i'r afael â phroblemau go iawn yn y byd.

Bydd ein myfyrwyr yn magu profiad a dealltwriaeth arbennig am sut i ddefnyddio eu hymchwil a'u dysgu wrth iddyn nhw greu atebion yma a dechrau yn y gweithle yn y dyfodol.

Ymhlith ein partneriaid rhyngwladol y mae; Prifysgol Wyoming, UDA, Prifysgol Konstanz, yr Almaen, Prifysgol Technoleg a Dylunio Singapore ac, yn Tsieina, Prifysgol Tsinghua, Prifysgol Technoleg Dalian, Prifysgol Normal Beijing a Phrifysgol Amaethyddol De Tsieina.

Symudais i'r DU saith mlynedd yn ôl o Lahore ym Mhacistan lle cefais i fy magu. Roeddwn i wedi astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol ac roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y maes hwn felly pan welais i’r cyfle i wneud PhD wedi'i ariannu yng Nghaerdydd gwnes i gais yn syth. Mae wedi bod yn daith anhygoel, nid yn unig oherwydd safon yr ymchwil a wnân nhw yma, ond oherwydd y cyfleusterau, y staff, a’r oruchwyliaeth a gynigir.
Muhammad Nouman Nafees

Archwilio

Prosiectau ymchwil rhyngwladol ar y cyd

Prosiectau ymchwil rhyngwladol ar y cyd

Rydyn ni’n falch o'r gwaith ymchwil rydyn ni’n ei wneud gyda'n partneriaid rhyngwladol. Dewch i wybod rhagor am ein prosiectau diweddar ar y cyd.

Astudio ledled y byd

Astudio ledled y byd

Mae gan ein tîm yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gefnogi eich cais, eich fisa, eich cyllid a’ch llety.

Tîm rhyngwladol

Tîm rhyngwladol

Mae ein tîm rhyngwladol yn gweithio i gefnogi ein myfyrwyr, ein partneriaethau a'n hymchwil rhyngwladol.