Ewch i’r prif gynnwys

Astudio ledled y byd

Mae croeso cynnes yma

Os hoffech chi fod yn rhan o’n llwyddiant yng Nghymru, mae gan ein tîm yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i gefnogi eich cais, eich fisa, eich cyllid a’ch llety a – pan fyddwch chi’n cyrraedd – eich bywyd yma yng Nghaerdydd.

Bydd ein timau ymgysylltu a phrofiad pwrpasol yn eich cefnogi tra eich bod yn astudio i sicrhau eich bod yn cael eich cyflwyno i bobl eraill sy’n astudio gyda chi a’ch bod yn cydweithio â nhw ac yn elwa ar y profiad hwn. Yn ogystal â chlybiau a chymdeithasau sefydledig (megis y Gymdeithas Seiber sydd wedi ennill sawl gwobr) mae digwyddiadau, darlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.

Os hoffech chi wybod rhagor, neu os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â COMSC-exchange@caerdydd.ac.uk.

Sefydliadau partner

Mae cytundeb gyda phartneriaid allweddol yn Tsieina (yn Beijing a Dalian) yn golygu y gall y myfyrwyr sy'n astudio gyda nhw ddod i Gaerdydd yn ystod yr ail flwyddyn yn eu rhaglen Meistr tair blynedd (a chael dwy radd, un gan bob prifysgol felly).

Yn y cyfamser gall ein hisraddedigion ni fanteisio ar bartneriaethau symudedd penodol - i astudio gyda rhai o'n partneriaid yn ystod ail flwyddyn eu gradd. Rydyn ni hefyd wedi lansio ffrwd ariannu newydd i gefnogi arloesi ym maes ymchwil ac addysgu drwy gefnogi gwaith ar y cyd (hyd at dri mis) o bell neu drwy ymweliadau â phrifysgol sy’n bartner.

Hanesion Myfyrwyr

Darllenwch am brofiad Muhammad ym Mhrifysgol Caerdydd:

Stori Muhammad

Mae Muhammad Nouman Nafees yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch - yn fwy penodol, atal ymosodiadau ar seilwaith cenedlaethol critigol.