Seibr-Dditectifs
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae’r pecyn gweithgarwch hwn yn archwilio byd seibr-ddiogelwch a phwysigrwydd cadw data a gwybodaeth yn ddiogel.
Rydych yn camu i faes gwybodaeth ffynhonnell agored gyda phecyn gweithgarwch cipio’r faner y Seibr-Dditectif. Bydd y pecyn yn darparu gweithgareddau a chanllawiau fideo er mwyn cwblhau’r seibr-heriau difyr a diddorol o’ch cartref. Mae’n hanfodol ar gyfer unrhyw ddarpar dditectifs seibr-ddiogelwch!
Cewch wybod rhagor os gweithiwch trwy’r amrywiaeth o heriau a gwylio’r fideos.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cyfrifiadureg a Gwybodeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Cheryl McNamee-Brittain yn mcnamee-brittainc@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim