Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Profiad yn y Dosbarth


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineMwy nag un diwrnod
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae'r Prosiect Profiad yn y Ddosbarth yn cael ei gynnal gan y Tîm Profiad Gwaith ac mae'n darparu cyfleoedd yn yr ystafell ddosbarth i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Manteision i ysgolion:

  • mae disgyblion ac athrawon yn cael cymorth ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth
  • mae lleoliadau'n hyblyg a gallant gynnwys cymorth cyffredinol gyda gwaith grŵp neu un-i-un, neu gyda phrosiectau pwnc-benodol
  • mae ein myfyrwyr yn gweithredu yn fodelau rôl cadarnhaol, gan godi dyheadau ac ysbrydoli disgyblion i ystyried Addysg Uwch

Rydym yn cydnabod mai profiad uniongyrchol mewn amgylchedd yr ystafell ddosbarth yw'r ffordd orau i’n myfyrwyr Prifysgol ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gwrs hyfforddiant athrawon neu ddatblygu’r sgiliau perthnasol i ddilyn eu gyrfa.

Caiff myfyrwyr wiriad gwirfoddol, uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac maent yn mynd i sesiwn ymsefydlu gan Brifysgol Caerdydd cyn mynd i ysgol. Mae hyn yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu profiad.


Ynglŷn â'r trefnydd

Y Tîm Cefnogi a Lles Myfyrwyr sy’n rhan o’r adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Chloe Evans yn classroomexperienceproject@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Anfonwch ebost os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gydweithio â myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o’r Prosiect profiad yn yr ystafell ddosbarth.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd
  • TickGwyddorau Cymdeithasol
  • TickCymraeg
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickProfiad gwaith

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn