Ewch i’r prif gynnwys

Tidal Anchors Ltd

Mae Tidal Anchors Holdings Ltd. yn Fusnes Bach a Chanolig wedi'i leoli yn Abertawe, de Cymru. Mae'r cwmni'n datblygu ac yn dylunio angorau sy'n cael eu defnyddio mewn dŵr llanwol, sy'n cynnig modd o angori ar gyfer llongau o bob maint.

Gofynnodd Tidal Anchors Holdings Ltd i Brifysgol Caerdydd adolygu uchafswm perfformiad strwythurol eu dyluniad drwy'r prosiect ASTUTE 2020.

Yn sgîl ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, cafodd yr angor newydd ei optimeiddio er mwyn cyflawni'r uchafswm perfformiad strwythurol ac addasrwydd ar gyfer gweithgynhyrchu ar raddfa lawn. Gwerthusodd y prosiect ddyluniad, perfformiad a'r paramedrau allweddol model, yn enwedig y modd y mae'n cael ei osod ar wely'r môr, er mwyn pennu cyfleoedd ar gyfer optimeiddio pellach, gan gynnwys gweithgynhyrchu.

Cydnabyddodd Tidal Anchors Holdings Ltd yr angen i gael math newydd o angor, all gael ei osod mewn modd manwl gywir heb lusgo mwy na sy'n rhaid, ac maent wedi datblygu angor newydd ar sail syniad gwreiddiol ar gyfer angori cychod morol yn ddiogel mewn dŵr llanwol, pan mae'r llanw neu'r gwynt yn newid cyfeiriad.

Mae'r dyluniad rheilen ddwbl a threfniant ffliwc yn gwneud yn siŵr bod yr angor yn cael ei osod ar unwaith ac yn fanwl gywir, gyda sefydlogrwydd a grym uchel ar gyfer aros yn sefydlog ym mhob cyfeiriad, pa bynnag ffordd y bydd yr angor yn disgyn ar wely'r môr. Mae'r Angor Llanwol nid yn unig yn cynnig perfformiad gwell o ran angori ar gyfer pob maint, ond dewis arall parhaol o ran mwrio o gymharu â'r rheini sydd eisoes ar gael.

Mae dylunio angorau fel arfer yn empeiraidd mewn natur, a phrin iawn fu'r esblygiad yn y maes yn ddiweddar. Mae dyluniadau presennol yn aml yn llusgo am gryn bellteroedd cyn gosod i raddau digonol ar wely'r môr. Yn aml, canlyniad hynny yw gorfod gosod angorau sawl gwaith cyn eu bod wedi'u gosod yn ddiamheuol. Mae'r angor arloesol hwn yn gwella'r broses o osod a gellir ei rhoi i'w le yn fanwl gywir, gan hepgor arferion fel defnyddio blociau concrid nad ydynt yn amgylcheddol gyfeillgar.

Model of tidal anchor

Heriau: Gwynt, llanw a rhwyddineb cynhyrchu

Er mwyn i’r Angor Llanwol berfformio’n well na’r modelau confensiynol sydd ar gael yn fasnachol, roedd angen ei optimeiddio er mwyn iddo aros yn sefydlog yn ystod y gwynt a’r lluoedd llanw a brofir gan longau mewn amrywiaeth o amodau gwely'r môr, megis tywod, clai a chraig. Er mwyn bod yn fasnachol ymarferol, roedd angen iddo fod yn hawdd i’w gynhyrchu, yn enwedig drwy ddileu'r angen am weldio, sy'n gallu achosi gwendid a chyrydu.

Ateb: Technegau dadansoddi cyfrifiadurol a threialon maes

Dangosodd dadansoddi elfennau cyfyngedig (FEA) fod yr Angor Llanwol gorau yn gallu aros yn sefydlog yn ystod gwynt a llanw dan amodau gwaith. Defnyddiwyd treialon traeth a môr a gynhaliwyd gan Tidal Anchors Ltd i gadarnhau canlyniadau FEA. Mae ymwrthedd yr angor wedi ei fodelu, yn erbyn hylif gludiog - hylif mercwri, ac mae gwerthuso cryfder ac anhyblygrwydd yr angor yn arwain at ddiwygiadau yn y fanyleb.

Mae'r cyfleuster profi mewn tanc wedi rhoi adborth cynnar gyda nifer o amrywiadau dylunio. Cwblhawyd dyluniad diwygiedig gan y cwmni yna cafodd ei ailfodelu (yn erbyn hylif gludiog) gan ASTUTE 2020. Ail-werthuswyd ei gryfder i gadarnhau nodweddion materol ac elfennau i wrthsefyll llwythi a ragwelir a ffactorau diogelwch gofynnol.

Mae profion ar yr angor yn dangos ei fod yn cael ei osod yn fwy diogel nag angorau confensiynol, ac mewn llai o hyd, sy’n achosi llai o niwed amgylcheddol i lystyfiant morwellt pwysig. Mae'r datblygiad ailgynllunio mawr yn dal i fod o fewn meini prawf y patent gwreiddiol, a oedd yn ystyriaeth bwysig iawn.

Mae Tidal Anchors Holdings Ltd. wedi’u plesio gan lefel y gefnogaeth a'r ymrwymiad i ddatblygiad y prosiect gan bawb sy'n ymwneud â rhaglen ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae modelu CAD a FEA wedi ein galluogi i gynnal profion prototeip yn yr amgylchedd morol llym a chadarnhau rhinweddau dyluniad unigryw’r Angor Llanwol.

Ivor Griffith, Cyfarwyddwr, Tidal Anchors Holdings Ltd.

Effaith

Mae Tidal Anchors Holdings Ltd. wedi arddangos a lansio eu Hangor Llanwol newydd yn Seawork International 2017 a gynhaliwyd yn Southampton. Mae'r digwyddiad hwn yn un o arddangosfeydd cychod gwaith a morol masnachol mwyaf Ewrop a ystyrir yn siop un stop y diwydiant ar gyfer prynwyr, deddfwyr a phobl dylanwadol yn y farchnad forol. Cynhelir Gwobrau Morol Masnachol Ewrop yn y digwyddiad a chafodd yr Angor Llanwol yr ail wobr yn y categori peirianneg ac adeiladu morol.

Mae Tidal Anchors Holdings Ltd. ac ASTUTE 2020 wedi cynhyrchu model prawf i werthuso perfformiad yn y maes ac i’w arddangos i ddarpar gwsmeriaid.

Mae'r angor newydd yn ecogyfeillgar, oherwydd ei allu i osod ei hyd ei hun, ac mae biolegwyr morol wedi cydnabod ei botensial i leihau'r niwed yn sylweddol i organebau ar wely'r môr.

Yn dilyn llwyddiant yr ymchwil, canlyniadau profion a gafwyd a derbyniad ardderchog Tidal Anchors Holdings Ltd yn y farchnad, rhoddodd yr hyder i'r cwmni fuddsoddi i wneud cais am batent mewn gwledydd ychwanegol. Mae saith patent wedi cael eu rhoi hyd yn hyn yn Ewrop, Hong Kong, Canada, Tsieina, Japan, UDA ac Awstralia.

EU Logos