Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgynhyrchu Ymgysylltiol

Nod y prosiect yw pennu i ba raddau mae systemau Argraffu 3D yn galluogi cwsmeriaid i fod yn rhan weithredol o’r broses cysyniadoli, cynhyrchu a gwaredu ar ddiwedd oes.

Ceir tystiolaeth o alw cynyddol am gynnyrch wedi’u teilwra, gan symud oddi wrth fasgynhyrchu tuag at deilwra ar raddfa fawr. Bydd y prosiect yn datblygu sefyllfaoedd cadwyn gyflenwi Argraffu 3D y dyfodol gyda lefelau gwahanol o ymgysylltu cwsmer-cynhyrchydd, gan werthuso p’un a yw’r sefyllfaoedd yn cyflawni’r amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ai peidio.

Bydd y prosiect yn defnyddio systemau i Argraffu 3D, gan ystyried sefyllfaoedd ar gyfer yr holl broses gweithgynhyrchu, ac yn arwain at ddatblygiad Cadwyni Cyflenwi Argraffu 3D cynaliadwy.

A flow chart displaying the work package flow for the Engaged Manufacturing Project
Work package flow for the "Engaged Manufacturing" project.

Beth yw Argraffu 3D?

Mae Argraffu 3D, a elwir hefyd yn “Weithgynhyrchu Ychwanegion” neu “Gweithgynhyrchu Digidol Uniongyrchol”, yn cyfeirio at gasgliad o dechnolegau gweithgynhyrchu sy’n creu rhannau mewn ffyrdd unigryw; yn wahanol i lawer o dechnegau traddodiadol sydd naill ai’n dynnol neu’n ffurfiannol eu natur, mae Argraffu 3D yn creu rhannau drwy ychwanegu haenau o ddeunydd at ei gilydd.

Mae amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael ar gyfer Argraffu 3D, gan gynnwys plastig, metelau, cerameg a deunyddiau cyfansawdd. Er ei bod yn dechnoleg sydd wedi ennill ei phlwyf er mwyn creu prototeip a chynnyrch untro, wrth i’r peiriannau a’r deunyddiau wella, mae Argraffu 3D yn ymledu i dir technolegau confensiynol wrth greu ystod eang o rannau cymhleth.

Pam defnyddio Argraffu 3D?

Mae Argraffu 3D yn broses ddigidol sy’n gallu troi dyluniadau yn gynnyrch yn uniongyrchol. Yn wahanol i ddulliau traddodiadol, nid oes angen offer arbenigol, ac mae’r peiriannau a ddefnyddir yn gallu creu ystod eang o gynnyrch ar beiriant sengl.

Mae datblygiadau diweddar mewn cynnyrch yn galluogi nifer o ddeunyddiau i gael eu defnyddio fel rhan sengl. Gan fod modd ychwanegu at y broses, nid yw’n angenrheidiol ystyried llwybrau offer a chyfyngiadau peiriant, gan alluogi geometegrau hynod gymhleth i gael eu creu.

Senarios newydd ar gyfer “ymgysylltu”

Mae’r prosiect hwn yn defnyddio technegau cynllunio senarios i ddatblygu a phrofi posibiliadau Argraffu 3D y dyfodol. Mae ffactorau megis dosbarthiad cyfleusterau gweithgynhyrchu, gofynion technolegol, y lefel o arbenigedd sydd gan weithgynhyrchwyr, a faint i ymwneud â’r cwsmer yn cael eu harchwilio.

Bydd ffactorau cymdeithasol, megis y sgiliau sydd eu hangen ar gwsmeriaid i addasu cynhyrchion, a’r farchnad ar gyfer eitemau pwrpasol, hefyd yn cael eu harchwilio. Gan adeiladu ar wybodaeth a gasglwyd gan adolygiad o’r llenyddiaeth gyfredol, a defnyddio ymchwil ansoddol helaeth gyda’r byd academaidd, byd diwydiant a’r cyhoedd yn gyffredinol, bydd y prosiect yn sefydlu ac yn profi’r diweddaraf o ran y disgwyliadau ar gyfer y dyfodol. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, datblygir cyfleoedd realistig ar gyfer Argraffu 3D, gan wahanu’r hyn sy’n “bosibl” oddi wrth y “ffantasi”.

Rhagor o wybodaeth am y gwaith datblygu senario.

Cydweithio diwydiannol

Mae llwyddiant y prosiect hwn yn dibynnu ar gydweithio â diwydiant, casglu data gan gwmnïau sy’n defnyddio Argraffu 3D, yn ystyried ei ddefnyddio neu ddim yn ei ddefnyddio o gwbl eto. Nod y prosiect yw cyflwyno canlyniadau realistig sy’n helpu i lywio dyfodol cadwyni cyflenwi ac ymgysylltu â chwsmeriaid ar draws y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae cydweithio diwydiannol yn hanfodol ar gyfer:

  • gwneud yn siŵr bod ein canfyddiadau ar flaen y gad o ran y syniadau a’r arferion diwydiannol presennol
  • rhoi adborth i’n cydweithwyr, gan alluogi i’n hymchwil gael effaith ddiwydiannol, a dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth
  • gosod agendâu ymchwil ar gyfer y dyfodol, gan wneud yn siŵr bod y prosiectau olynol yn parhau’n berthnasol i anghenion diwydiannol, a’u bod yn seiliedig ar fewnbwn ac adborth gan ein cydweithwyr.