Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn hen law ar gydweithio’n llwyddiannus â chwmnïau drwy gynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.
Rydym wrthi’n gweithio i ddatblygu ac ehangu ein portffolio Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal nifer o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gan gynnwys:
Prosiectau presennol
Shine Food Machinery Ltd.
Datblygu a gweithredu methodoleg integreiddio systemau ar gyfer gweithgynhyrchu hyblyg, ymatebol a gwydn mewn amgylchedd cynhyrchu pwrpasol a gosod safleoedd pellennig.
Enillodd archwilwyr CAMSAC Dr Daniel Eyers a Dr Anthony Soroka grant £140,000 yn sgîl cais llwyddiannus am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Bydd y grant a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK yn cefnogi prosiect dwy flynedd (2019-2021) gyda Shine Food Machinery Ltd., sy’n cyflenwi atebion masnachol o safon ar gyfer y gegin.
Trosolwg o’r prosiect
Mae Shine Food Machinery Ltd yn weithgynhyrchwr cegin masnachol sy’n dylunio, gwneud ac yn gosod cyfarpar cegin a chownteri gweini.
Dros y 40 mlynedd diwethaf, maent wedi diwallu anghenion set amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys
- Microsoft
- y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Coca-Cola
- Selfridges
- Maes Awyr Bryste.
Mae pob cynnyrch wedi’i deilwra at gwsmeriaid unigol, ac mae angen ei gyflenwi’n gyflym heb darfu ar ansawdd y cynnyrch a gyflenwir, na’r gwasanaeth gosod. Mae angen systemau gweithgynhyrchu a busnes effeithiol sy’n gallu ymdopi â gofynion hynod gymhleth a chyfnewidiol ar gyfer y math hwn o waith, heb godi gorbenion sylweddol i’r rheolwyr.
Nod y prosiect
Nod y prosiect yw dadansoddi, dylunio a gweithredu ystod o brosesau a systemau hyblyg er mwyn gwella effeithiolrwydd gweithrediadau a chefnogi twf parhaol y busnes.
Cysylltwch â ni
Rydym bob tro’n awyddus i ddod o hyd i gyfleoedd i weithio gyda busnesau drwy fecanwaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.
Cysylltwch â’n Rheolwr Canolfan, Dr Andrew Davies, yn y lle cyntaf i drafod eich gofynion a chael hyd i arbenigwyr academaidd priodol o’n tîm.